Pecyn Cymorth Gwyliau Cerdded

Pam rydych chi am ddechrau gŵyl gerdded?

Rhagymadrodd i’r adran

Mae’r adran hon yn cynnwys cwestiynau y dylech eu gofyn i chi’ch hun cyn ichi ddechrau trefnu gŵyl ynghyd ag enghreifftiau o sut y dechreuodd gwyliau cerdded eraill.  Mae hefyd yn nodi pam mae’n bwysig eich bod yn ystyried hyn ar y dechrau’n deg.

Naratif

Os ydych yn ystyried dechrau gŵyl gerdded…

Mae’n hollbwysig eich bod yn glir o’r cychwyn pam rydych chi am drefnu gŵyl gerdded.  Bydd hynny’n rhoi ffocws a chyfeiriad i’ch gŵyl ac i’r bobl sy’n ei rhedeg a bydd yn galluogi partneriaid i ddeall yr hyn y bydd yr ŵyl yn ei gyflawni ac felly i benderfynu a ydyn nhw am gymryd rhan neu beidio.  Bydd yn helpu hefyd o ran penderfyniadau eraill, megis pa bryd i gynnal eich gŵyl, pa mor hir y dylai’r ŵyl fod, pa fathau o deithiau cerdded i’w cynnal, etc.

Mae gwyliau cerdded o bob math ar gael, a hynny’n rhannol am eu bod yn ceisio cyrraedd nodau gwahanol.  Mae gan rai fwy nag un nod.  Dyma’r rhesymau mwyaf cyffredin dros drefnu gŵyl gerdded:

  1. Denu ymwelwyr i gyrchfan yn ystod cyfnodau tawel (economaidd)
  2. Codi proffil rhywle fel cyrchfan i gerddwyr (twristiaeth)
  3. Annog pobl i fynd allan i gerdded (iechyd a llesiant)
  4. Codi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o ardal neu ei threftadaeth ddiwylliannol neu naturiol (dehongli)
  5. Dod â grwpiau gwahanol mewn cymuned at ei gilydd, neu helpu grwpiau cymunedol gwahanol a’u prosiectau (cydlynedd cymunedol)

Os oes gŵyl gerdded gennych yn barod, efallai yr hoffech ei gwella drwy gyfrwng y canlynol…

  1. Symud eich gŵyl tuag at fod yn gynaliadwy o safbwynt ariannol
  2. Cynyddu nifer yr ymwelwyr i gefnogi’r busnesau lleol
  3. Datblygu’ch gŵyl i ateb newidiadau yn nisgwyliadau’r cerddwyr

Serch hynny, cofiwch feddwl yn ofalus cyn ichi ddechrau ‘cywiro ffens nad yw hi wedi torri’.  Fydd gwneud eich gŵyl yn fwy neu’n wahanol mewn rhyw fodd ddim o reidrwydd yn ei gwella.  Ystyriwch yn ofalus hefyd ynghylch derbyn cymorth o’r tu allan – bydd amodau ynglŷn â chymorth o’r fath.  Gofalwch fod unrhyw amodau sy’n cael eu gosod gan arianwyr yn cyd-fynd â’ch nodau chi ac â phethau eraill fel ‘naws’ eich gŵyl a sut rydych chi’n ei rhedeg.  Gwnewch yn siŵr bod eich tîm a’ch partneriaid yn fodlon ar unrhyw newid a allai fod yn angenrheidiol.

P’un a ydych chi’n ystyried gŵyl newydd neu un sydd eisoes yn bod, bydd angen ichi ddatblygu a newid er mwyn ei chadw’n ffres ac er mwyn ateb newid yn nisgwyliadau pobl.  Bydd angen cryn dipyn o ymroddiad a dylech sicrhau bod eich sefydliad neu’ch cymuned yn abl ac yn fodlon i’w ysgwyddo.  Bydd y pecyn cymorth hwn yn rhoi syniadau ichi ac enghreifftiau o bethau sydd wedi llwyddo mewn mannau eraill ac a allai daro deuddeg i chithau hefyd.

Rhestrau gwirio

Dechrau Gŵyl

  1. Pam dechrau gŵyl?
  2. Beth yw’r nodau? Beth fyddai’r effeithiau cadarnhaol?
  3. A fyddai’r ŵyl yn creu unrhyw effaith negyddol?
  4. Ydy’r bobl a’r busnesau lleol o blaid cael gŵyl?
  5. Oes gennyn ni’r gallu i drefnu gŵyl?
  6. Allen ni ymdopi â chynnal gŵyl bob blwyddyn?
  7. Pwy allai’n helpu ni?

Datblygu Gŵyl sydd eisoes yn bod

  1. Pam rydych chi am newid eich gŵyl?
  2. Fydd newid yr ŵyl yn fodd i gyrraedd eich nodau’n well?
  3. Oes gennych chi’r gallu i newid?

Enghreifftiau o astudiaethau achos

Bedair blynedd yn ôl, roedd economi pentref Winchcombe yn y Cotswolds yn dirywio.  Roedd nifer yr ymwelwyr ar drai ac roedd siopau’n cau, gan arwain at ragor o ddirywio.  Cafodd Gŵyl Gerdded Winchcombe ei sefydlu i wyrdroi’r duedd, drwy ddenu ymwelwyr i Winchcombe a thrwy gynnig llwyfan ar gyfer cyhoeddusrwydd i godi ymwybyddiaeth o Winchcombe fel canolfan gerdded.  Cwta bedair blynedd wedyn, mae’r ŵyl yn llwyddiant mawr, mae cerddwyr yn dod i Winchcombe drwy’r flwyddyn ac mae busnesau’r pentref yn ffynnu.

Taking a break (Island of Barrow Walking Festival

Taking a break (Island of Barrow Walking Festival

Yn ôl trefnwyr Gŵyl Gerdded Ynysoedd Penrhyn Barrow a Furness mae’r ŵyl honno wedi parhau am ei bod yn hyblyg ac yn llwyddo i addasu i gyd-fynd â newidiadau ym mholisi’r sector cyhoeddus.  Mae’r ŵyl wedi newid sawl tro ac mae’n dal i newid er mwyn sicrhau cyllid.  Mae hefyd wedi crebachu i staff craidd sy’n canolbwyntio ar gasglu gwybodaeth am gerdded gan grwpiau cymunedol ac ar waith hyrwyddo (taflenni, gwefan, cyfryngau cymdeithasol ac ychydig bach o hysbysebu lleol).

Nod Mendip Rocks yw codi dealltwriaeth o ddaeareg Bryniau Mendip a’r tirluniau, y bioamrywiaeth a’r dreftadaeth ddynol sy’n codi ohoni.  Yn 2014, sef pedwaredd flwyddyn yr ŵyl, llwyddodd 24 o deithiau tywys, sesiynau o weithgareddau i’r teulu a theithiau tywys o amgylch chwareli i ddenu mwy na 1,100 o bobl.

Cynnydd Gŵyl Mendip Rocks

Blwyddyn Nifer y digwyddiadau Cyfanswm a gymerodd ran
2011 12 218
2012 17 753
2013 18 803
2014 24 1,167

 

Cynghorion

Mae gwyliau cerdded yn debycach o fod yn gynaliadwy os ydyn nhw’n cael eu gwerthfawrogi gan y gymuned, y busnesau a’r asiantaethau lleol, felly meddyliwch am yr angen am ŵyl yn strategol.

Beth yw’r heriau sy’n wynebu’ch pentref, eich tref neu’ch ardal chi? Allai gŵyl gerdded helpu i fynd i’r afael â’r rhain?  Os felly, sut?

Siaradwch â cherddwyr a phobl eraill a allai fod yn meddwl yr un fath â chi.  Ceisiwch ddod o hyd i unrhyw effeithiau negyddol ac ystyriwch y rhain wrth benderfynu a ddylech chi fwrw ymlaen neu beidio.

Trefnwch arolwg ymysg y busnesau a/neu’r trigolion lleol i glywed eu barn ac i ddod o hyd o nodau a themâu posibl, dyddiadau da i gynnal yr ŵyl ac i roi arweiniad ichi ar agweddau eraill

Ffynonellau gwybodaeth eraill 

Questionnaire Design Guidelines