Pecyn Cymorth Gwyliau Cerdded

Ar ôl yr ŵyl

Mae’n well cymhennu yn fuan ar ôl i’r digwyddiad ddod i ben. Drwy wneud hynny byddwch yn cofio ac yn gallu casglu mwy o fanylion. Peidiwch ag ildio i’r demtasiwn o fynd i ffwrdd i orffwys am wythnos neu ddwy ac ewch ati i gymhennu.

Gwybodaeth i wyliau newydd a phresennol

Tynnwch unrhyw strwythurau, arwyddion a baneri’n gyflym ar ôl diwedd yr ŵyl.  Gall eu gadael nhw godi gwrychyn y trigolion ac nid yw’n edrych yn dda

Walney Sunset Walk (Islands of Barrow Walking Festival)

Walney Sunset Walk (Islands of Barrow Walking Festival)

Gofalwch eich bod yn diolch i bawb sydd wedi cymryd rhan i wneud yr ŵyl yn llwyddiant.

Gadewch i’ch hysbysebwyr, eich noddwyr a’ch cefnogwyr eraill wybod am ganlyniadau’r ŵyl. Os oes angen, rhowch benawdau’r canlyniadau yn syth ar ôl yr ŵyl ac anfonwch ragor o fanylion pan fyddwch chi wedi cael amser i ddadansoddi arolygon ymwelwyr a gwybodaeth arall.

Trefnwch sesiwn ôl-drafod gydag arweinwyr y teithiau cerdded a gofalwch eich bod yn holi’ch cefnogwyr sut amser gawson nhw yn yr ŵyl a gofyn am eu hawgrymiadau ar sut y gallech chi wella pethau y tro nesaf.

Talwch unrhyw gyflenwyr yn gyflym. Fel hyn byddan nhw’n fodlon cydweithio  â chi eto.

Running a photo competition can help collect images and gain publicity (Crickhowell Walking Festival)

Running a photo competition can help collect images and gain publicity (Crickhowell Walking Festival)


Gofalwch ymdrin ag unrhyw adborth ar-lein a gawsoch, ar eich gwefan chi’ch hun ac ar wefannau eraill, yn enwedig TripAdvisor.  Os ydych chi wedi casglu adborth gan y rhai fu’n cymryd rhan, atebwch unrhyw sylwadau negyddol neu gadarnhaol. Bydd hyn yn helpu i greu perthynas â’ch cwsmeriaid.

Lluniwch restr o bethau da a drwg sydd wedi digwydd a rhestr o’r gwersi sydd i’w dysgu erbyn y digwyddiad y flwyddyn nesaf.  Gwnewch yn siŵr eich bod yn defnyddio’r adborth hwn wrth gynllunio at y tro nesaf.

Rhestrau gwirio

Pobl i ddiolch iddyn nhw

  • Pwyllgor/tîm trefnu
  • Arweinwyr
  • Hysbysebwyr
  • Noddwyr
  • Pobl a roddodd grantiau
  • Tirfeddianwyr
  • Partneriaid a chefnogwyr eraill

Enghreifftiau o astudiaethau achos

Cynghorion

Ceisiwch ddefnyddio’r un opsiynau holi ac ateb â gwyliau a phrosiectau eraill yn eich ardal. Fel hyn gallwch weld sut gwnaethoch chi o’i gymharu â phobl eraill. Efallai y gall eich sefydliad rheoli cyrchfannau neu’ch partneriaeth twristiaeth helpu yn hyn o beth.

Ffynonellau rhagor o wybodaeth

Canllawiau ar gloriannu digwyddiadau