Pecyn Cymorth Gwyliau Cerdded

Meddwl am gynllunio

Rhagymadrodd i’r adran

Mae cynllunio gŵyl gerdded yn debyg i gynllunio unrhyw ddigwyddiad.  Mae’r adran hon yn cynnwys gwybodaeth am yr ystod eang o bynciau y bydd angen ichi feddwl amdanyn nhw ac enghreifftiau o sut mae gwyliau eraill wedi mynd ati i gynllunio.  Peidiwch â bychanu faint o amser y bydd arnoch ei angen i gynllunio popeth yn iawn, na’r adnoddau dynol angenrheidiol.

Mae’r adran hon wedi’i threfnu o dan y penawdau a ganlyn, i’w gwneud yn haws ichi ddod o hyd i’r wybodaeth rydych chi’n chwilio amdani:

  • Amseru
  • Y teithiau
  • Arweinwyr y teithiau
  • Iechyd a diogelwch
  • Marchnata
  • Archebion
  • Cyllid
  • Digwyddiadau/gweithgareddau heblaw cerdded

Gwybodaeth i wyliau newydd a phresennol

Amseru

Mae amseru’ch gŵyl yn cael ei drafod yn Adran 4.  Bydd angen ichi fod yn realistig o ran faint o amser i’w ganiatáu i gynllunio, hyrwyddo, etc.  Ar gyfer gŵyl gyntaf, dylech ganiatáu 12 mis; bydd hynny’n rhoi cyfle ichi fynd i wyliau eraill.  Yn achos gwyliau sydd eisoes yn bod, lle mae gan y trefnwyr a’r arweinwyr brofiad o wyliau blaenorol, mae 6 mis yn rhesymol.

Trefnu

Bydd angen bod yn drefnus iawn.  Mae llawer o wyliau wedi cael anhawster ynglŷn â hyn yn eu blynyddoedd cynnar (“Yn y flwyddyn gyntaf, roedd hi’n draed moch.  Doedd yr un ohonon ni wedi trefnu gŵyl gerdded o’r blaen.  Drwy lwc, ddaeth dim llawer o bobl ac felly cafodd y cyfle i greu llanast ei gyfyngu”, Diana Denbury, Gŵyl Gerdded Gogledd y Pennines).  Ceisiwch fynd i ŵyl neu ddwy i weld sut mae pethau ‘n cael eu trefnu rywle arall.

Gallech ystyried rhoi elfennau o’ch gŵyl i bobl eraill i’w trefnu.  Er enghraifft, Cyngor Sir Durham fu’n gwneud y gwaith casglu arian ar ran Gŵyl Gerdded Gogledd y Pennines.  Mae Gŵyl Gerdded Berwick wedi mynd ymhellach ac wedi ffurfio partneriaeth â gweithredwr teithiau cerdded. Mae’r gweithredwr wedi datblygu gwefan, mae’n gwneud yr holl waith marchnata a hyrwyddo, mae’n rheoli’r rhaglen deithiau ac yn trafod yr holl archebion.

Y teithiau

Bydd arnoch angen digon o amser i gynllunio rhaglen o deithiau cerdded.  Yn ddelfrydol, dylech roi canllawiau clir ar y math o deithiau a safon y teithiau yr hoffech eu cynnig ac anfon yr wybodaeth honno at bobl sy’n gwirfoddoli i arwain, ynghyd â ffurflen bwrpasol i gasglu gwybodaeth am bob taith.  Gosodwch ddyddiadau cau pendant ar gyfer derbyn gwybodaeth gan yr arweinwyr a pheidiwch â defnyddio neb sy’n colli’r dyddiad cau: os na all arweinydd gadw at y dyddiad cau i roi gwybodaeth am y daith, dylech fod yn amheus o allu’r arweinydd hwnnw i gynnal taith gerdded lwyddiannus.

Ystyriwch pa mor hir y dylai’ch teithiau fod.  Ceisiwch gadw at hawliau tramwy cyhoeddus neu lwybrau caniataol.  Cofiwch fod tir mynediad agored yn gallu cael ei gau drwy roi pedair awr o rybudd.  Dylech sicrhau caniatâd ysgrifenedig ar gyfer unrhyw dir preifat y gallech ei groesi.

Gofalwch fod arweinwyr yn cerdded y llwybr yn ystod y cyfnod cynllunio.  Efallai eu bod yn gyfarwydd â’r llwybr, ond mae pethau’n newid.  Rhaid i’r arweinwyr nodi man cychwyn sydd â digon o le parcio diogel ac, yn ddelfrydol, cludiant cyhoeddus.  Dylech ofyn iddyn nhw nodi unrhyw faterion o bwys ar yr adeg hon hefyd – risgiau, cyfyngiadau posibl, megis os nad oes croeso i gŵn (e.e. gwarchodfa natur, stoc mewn caeau, etc.).

Dylai’r teithiau cerdded gael eu graddio i helpu pobl i benderfynu pa rai i’w harchebu.  Ceisiwch fod mor eglur ag y gallwch gan fod pobl sy’n archebu teithiau cerdded sy’n ormod o straen iddyn nhw yn gallu bod yn broblem fawr.  Gofalwch fod yr holl gyhoeddusrwydd a gwybodaeth yn cynnwys manylion am raddfa anhawster y teithiau.  Rhowch wybodaeth arall i helpu pobl i ddeall y pethau y bydd arnyn nhw eu hangen ac unrhyw offer arbennig posibl, er enghraifft sbienddrych ar daith gerdded gwylio adar a chwyddwydr ar daith gerdded i weld cennau.

Gallwch lawrlwytho canllaw defnyddiol, ar ffurf pwyntiau bwled, ar gynllunio llwybrau gan Ŵyl Gerdded Talgarth yma.

Arweinwyr y teithiau

Bydd angen ichi feddwl pa fath o arweinwyr yr hoffech eu defnyddio, yr hyn yr hoffech i’r arweinwyr ei wneud a sut yr hoffech eu rheoli.  Mae arweinwyr yn unigolion a bydd ganddyn nhw eu dulliau gwahanol.  Yn ddelfrydol byddwch yn ceisio cyrraedd safon gyson, felly efallai yr hoffech ystyried cael nodiadau cyfarwyddyd neu lawlyfr arweinwyr ynghyd â rhywfaint o hyfforddiant, megis cymorth cyntaf, tystysgrif arweinwyr teithiau cerdded ac ymwybyddiaeth o leoedd lleol.

Dylech o leiaf ddarparu rhestrau cyfeirio a ffurflenni pwrpasol er mwyn i’r arweinwyr eu defnyddio i gasglu a chyflenwi gwybodaeth gyson am deithiau cerdded ac er mwyn sicrhau asesiadau risg cyson. Mae enghreifftiau y gallech eu hystyried fel arweiniad ar gael i’w lawrlwytho yma ac yma .

Ystyriwch hefyd faint o arweinwyr y bydd eu hangen.  Yn ddelfrydol, bydd angen arweinydd a chynorthwyydd neu rywun i gydgerdded â’r cerddwyr olaf ar gyfer pob taith.  Mae gan Ŵyl Gerdded Crucywel gronfa o 80 o arweinwyr a defnyddiwyd 67 yn 2015 i gynnal 84 o deithiau cerdded. Efallai y bydd arnoch angen arweinwyr wrth gefn hefyd i gymryd lle unrhyw un sy’n tynnu’n ôl ar fyr rybudd.

Iechyd a Diogelwch

Rydych chi o dan ddyletswydd gofal tuag at bawb sy’n cymryd rhan yn eich gŵyl: cerddwyr, arweinwyr, trefnwyr ac eraill. Dylech benodi rhywun, neu grŵp bach o unigolion, i fod yn gyfrifol ân iechyd a diogelwch, ond mae angen i bawb sy’n rhan o drefnu’r ŵyl fod yn ymwybodol o’u rhwymedigaethau a’u cyfrifoldebau.

Bydd angen ichi gynnal asesiad risg ar gyfer pob un o’r teithiau cerdded ac unrhyw ddigwyddiadau eraill a bydd angen gweithdrefn i ymdrin ag unrhyw argyfwng a allai ddigwydd.  Mater i chi yw sut yn union y gwnewch chi hyn, ond, os bydd damwain, mae angen ichi allu dangos eich bod wedi gwneud popeth sy’n rhesymol i leihau’r posibilrwydd o ddamwain a bod gennych weithdrefnau digonol i ymdrin â damweiniau/digwyddiadau os byddan nhw’n codi. Mae’n bwysig cydnabod y bydd pethau’n mynd o chwith ac mae’n rhaid ichi fod yn barod amdanyn nhw.

Dylech gynnal asesiad risg ynglŷn â phob taith gerdded a phob digwyddiad arall.  Mae enghreifftiau o asesiadau risg ar gael i’w lawrlwytho yma (risk assessment downloads).  Dylech adolygu pob asesiad risg ac ystyried sut i leihau gymaint ag y bo modd ar bob risg a’r hyn y byddech yn ei wneud pe bai damwain neu ddigwyddiad o ryw fath.  Defnyddiwch hyn i baratoi cynllun argyfwng a gofalwch fod eich tîm cyfan yn deall sut i ymateb os ceir problem.

Dyma rai o’r risgiau cyffredin y gallech ddod ar eu traws

  • Llwybrau wedi’u hatal
  • Gwartheg/teirw
  • Disgynfeydd serth
  • Tir corsiog
  • Croesi ffyrdd
  • Croesi afonydd
  • Gwres neu oerfel eithriadol
  • Gwynt cryf (ar dir uchel/llwybrau agored)
  • Cerddwyr sy’n methu cwblhau’r daith
  • Anhwylderau meddygol cerddwyr
  • Cerddwyr sydd angen sylw meddygol
  • Eiddo coll
  • Signal ffôn symudol gwael

Bydd eich yswirwyr yn disgwyl gweld bod gennych asesiad risg a gweithdrefnau argyfwng.  Gofalwch eu bod yn fodlon ar eich asesiadau risg a’ch cynllun argyfwng.

Gofalwch fod gan bob lleoliad sydd â ‘staff’ gopi o’ch cynllun argyfwng a gwnewch yn siŵr ei bod yn hawdd i bobl ddod o hyd i restr o beth i’w wneud os bydd gwahanol fathau o ddigwyddiad yn codi.  Cofiwch gynnwys ffurflenni i greu adroddiad am ddigwyddiad a gofalwch fod lle arnyn nhw i unrhyw un sy’n eu llenwi gofnodi ei enw a’i fanylion cysylltu er mwyn ichi fynd ar ôl materion.

Bydd arnoch angen yswiriant atebolrwydd cyhoeddus.  Mae gan Walkers are Welcome a Chymdeithas y Cerddwyr gynlluniau yswiriant ac os byddwch yn eu cynnwys nhw yn eich gŵyl, mae’n bosibl y gallan nhw helpu ag yswiriant.  Efallai y gall awdurdodau lleol helpu hefyd.

Os oes gennych unrhyw amheuaeth ynghylch unrhyw agwedd ar reoli risg, gweithdrefnau argyfwng neu yswiriant, cymerwch gyngor cyfreithiol.

Walk Leader safety plan and report (Crickhowell Walking Festival)

Marchnata

Gweithgarwch synnwyr cyffredin yw marchnata. Mae’n golygu nodi’r math o bobl rydych chi am eu denu a datblygu’ch gŵyl a thargedu’ch gwaith hyrwyddo tuag atyn nhw.  Os nad ydych yn siŵr ble i ddechrau, cysylltwch â’ch awdurdod lleol (mae gan y mwyafrif swyddog cysylltiadau cyhoeddus) neu sefydliad rheoli cyrchfannau; efallai y gallan nhw roi cyngor ichi.

Mae gan y mwyafrif o wyliau wefan a rhaglen brintiedig a’r rhain yw prif gyfryngau fel arfer i roi gwybodaeth a chodi ymwybyddiaeth.  Er hynny, ar eu pen eu hunain, fydd y rhain ddim yn ddigon i hybu’ch gŵyl a bydd angen ichi drefnu cyhoeddusrwydd i helpu pobl i ddod o hyd i’r rhaglen a’r wefan.

Efallai y bydd gan eich sefydliad rheoli cyrchfannau neu’ch partneriaeth twristiaeth leol wybodaeth am y farchnad i gerddwyr a phobl eraill sy’n dod i’r ardal.  Mae gan rai, fel Bannau Brycheiniog, strategaethau twristiaeth gerdded y gallwch ffitio iddyn nhw ac maen nhw eisoes yn hybu’r ardal ar gyfer cerdded. Gofalwch gymryd rhan mewn unrhyw waith hyrwyddo o’r fath.

Yn gyffredinol, mae hysbysebu’n ddrud a gall fod yn anodd mesur y canlyniadau. Er hynny, efallai yr hoffech ystyried hysbysebion penodol yn y cylchgronau cerdded a rhywfaint o hysbysebion yn eich papurau newydd lleol.

Gofalwch ddod o hyd i bob rhestr o ddigwyddiadau mewn print ac ar-lein a sicrhau bod yr ŵyl (a’r teithiau cerdded unigol, os oes modd) wedi’u cynnwys yn y rhain.  Gweithgareddau eraill y gallech eu hystyried yw:

  • Dosbarthu posteri neu daflenni lle mae pobl leol yn ymgasglu (llyfrgelloedd, meddygfeydd, caffis, tafarndai, etc.) a lle mae ymwelwyr yn dod (lletyau, atyniadau, etc.)
  • Anfon hysbysiadau’r wasg at eich cyfryngau lleol a’r cyfryngau cerdded (neu gyfryngau arbenigol eraill os oes gan eich gŵyl thema benodol)
  • Baner neu boster mawr sy’n weladwy i’r traffig sy’n pasio drwodd neu sy’n pasio heibio
  • Rhoi gwybod i ddarparwyr llety am yr ŵyl er mwyn iddyn nhw ddweud wrth eu cwsmeriaid
  • Mae’r cyfryngau cymdeithasol (Facebook, Twitter, Pinterest, YouTube, instagram, etc.) ar gael yn rhad ac am ddim, ond maen nhw’n cymryd amser; hefyd, maen nhw’n apelio at gynulleidfa iau
  • Gofalwch fod eich ffrydiau cyfryngau cymdeithasol i’w gweld ar eich gwefan
  • Rhowch gynnig ar Google ads – gallwch bennu’r geiriau allweddol yr hoffech ymateb iddyn nhw a gosod cap ar eich gwariant fesul diwrnod neu wythnos

Gwnewch yn siŵr eich bod yn casglu gwybodaeth oddi wrth bobl sy’n ymholi ac sy’n dod i’ch digwyddiad a’u defnyddio nhw fel rhestr bostio/e-bostio ar gyfer gwyliau’r dyfodol.

Heblaw am anelu at ddenu ymwelwyr i’r dref, wnaeth Gŵyl Gerdded Crucywel ddim pennu marchnad i’w thargedu.  Er hynny, mae’r trefnwyr yn defnyddio adborth am y rhaglen o deithiau cerdded i’w datblygu bob blwyddyn i ateb anghenion y cerddwyr: rhyw fath o ddull marchnata hunan-ddewisol.

Island of Barrow Walking Festival Advert

Island of Barrow Walking Festival Leaflets

Island of Barrow Press Release

Archebion

Bydd y mwyafrif, yn enwedig y rhai sy’n byw yn bell i ffwrdd, yn fodlon archebu (a thalu) ar-lein ac os oes modd fe ddylai’ch gwefan chi gynnwys yr opsiwn hwn.  Er hynny, bydd rhai pobl am archebu dros y ffôn neu mewn ysgrifen, felly dylech ganiatáu ar gyfer hynny hefyd, os oes modd.  Os nad oes gennych fedrau mewn technoleg gwybodaeth neu gyllideb fawr, un opsiwn rhad yw archebu drwy’r ebost a thalu ar ôl cyrraedd yr ŵyl neu ar ddechrau pob taith.

Mae gwahanol ffyrdd o drin archebion ac mae gan bob un ei manteision a’i hanfanteision.  Er enghraifft, gallech reoli’r archebion i gyd eich hun.  Bydd hynny’n rhoi rheolaeth ichi ac yn cynyddu’ch incwm i’r eithaf, ond bydd angen ichi sefydlu system gyllid electronig a dod o hyd i bobl i’w rheoli yn ogystal â thrafod unrhyw archebion dros y ffôn, yr ebost neu’r post.

Efallai yr hoffech roi’r gwaith trafod archebion i drydydd parti. Mae Gŵyl Gerdded Gogledd y Pennines wedi rhoi cynnig ar dri dull: rheoli’r archebion eu hunain, trefnu bod awdurdod lleol yn trafod yr archebion a phenodi contractiwr preifat.  Ar ôl cloriannu’r tri dull, y dewis ar hyn o bryd yw defnyddio contractiwr preifat.

Cyllid

Bydd yn costio arian yn ogystal ag amser gwirfoddolwyr i redeg gŵyl gerdded.  Prin iawn yw’r gwyliau sy’n talu eu costau gweithredu ar sail ffioedd am deithiau ac am gymryd rhan yn unig, er bod rhai yn anelu at y nod hwnnw.  Mae’r mwyafrif o wyliau’n dibynnu ar un neu ragor o fathau o arian allanol er mwyn talu eu costau.  Gallai’r rhain ddod o’r canlynol:

  • Cymorth gan eich awdurdod lleol neu ‘bartneriaid’ eraill
  • Grantiau (er enghraifft grantiau cymunedol sydd ar gael gan y sector cyhoeddus neu gan fusnesau neu ymddiriedolaethau sy’n rhoi grantiau)
  • Hysbysebion yn eich rhaglen ac ar eich gwefan
  • Nawdd gan fusnesau lleol

Bydd angen ichi bwyso a mesur unrhyw amodau sy’n dod ynghyd â grantiau neu fathau eraill o gymorth.  Dylech feddwl yn ofalus am nawdd.  Gallai cyflenwyr offer cenedlaethol gynnig bargen noddi hael, ond dylech ystyried sut y bydd y cyflenwyr lleol yn gweld hynny.  Er enghraifft, penderfynodd Gŵyl Gerdded Crucywel dderbyn nawdd ar lefel is gan siop awyr agored leol yn hytrach na swm mwy gan fanwerthwr cenedlaethol adnabyddus a hynny er mwyn cefnogi busnes lleol.

Bydd paratoi cynllun busnes ac amcan o’r llif arian yn eich helpu i ddeall eich anghenion ariannol ac i osgoi rhedeg allan o arian cyn i’r ŵyl ddigwydd.

Digwyddiadau/gweithgareddau heblaw cerdded

Mae rhai gwyliau hefyd yn cynnig rhaglen o ddigwyddiadau gyda’r os neu ddigwyddiadau heblaw cerdded.  Gall y rhain gymryd amser ac ymdrech i’w trefnu ac nid pob un fydd yn llwyddo.  Efallai yr hoffech wahodd mudiadau eraill i drefnu digwyddiadau a’u hybu nhw wedyn fel rhan o’r ŵyl.  Bydd hynny’n lleihau’ch llwyth gwaith a’ch risg ac mae’n ffordd dda i helpu mudiadau eraill yn eich cymuned.

Rhestrau gwirio

Wrth Ystyried Llwybrau ar gyfer Teithiau Cerdded

  • Mae’r llwybr yn dilyn hawliau tramwy a llwybrau caniataol
  • Osgowch groesi ffyrdd lle bo modd
  • Nodwch fan cychwyn addas (parcio, cludiant cyhoeddus, cysgod, lluniaeth)
  • Cylchdeithiau, neu gludiant ar gael
  • Cofnodwch a gwiriwch sawl milltir
  • Rhowch radd i bob taith
  • Nodwch lwybrau dianc
  • Nodwch fannau diddorol
  • Nodwch risgiau

Gwybodaeth sydd i’w rhoi gan Arweinwyr sy’n Cynnig Teithiau

  • Cyfeirnod grid a chod post agosaf y man cychwyn a’r diwedd
  • Rhifau dalenni map Explorer a Landranger yr OS
  • Rhifau ffyrdd a chyfarwyddiadau byr i’r man cychwyn
  • Disgrifiad o’r man cyfarfod
  • Unrhyw reswm pam nad yw’r daith yn addas i gŵn
  • Teitl y daith
  • Disgrifiad o’r daith
  • Yr uchafswm a all gymryd rhan
  • Unrhyw offer penodol angenrheidiol
  • Unrhyw ddillad penodol angenrheidiol
  • Trefniadau cinio (wrth gerdded drwy’r dydd)
  • Gradd y daith gerdded
  • Pellter y daith gerdded
  • Amserau cychwyn a gorffen
  • Amlinelliad o gynllun y daith (pwyntiau allweddol ac amserau bras)
  • Unrhyw gynulleidfa y mae’r daith yn addas/anaddas iddi

Enghreifftiau o astudiaethau achos

Mae Gŵyl Gerdded Berwick yn cael ei rheoli gan grŵp llywio lleol, ond mae’n cael ei threfnu gan weithredwr cerdded lleol.  Mae Shepherds Walks yn cydweithio â’r grŵp llywio i gynllunio’r ŵyl, gan recriwtio arweinwyr teithiau cerdded wedyn a hybu’r ŵyl.  Mae’r archebion yn cael eu trafod drwy system archebu awtomataidd y cwmni.  Mae gan y cyfuniad hwn rhwng y sector preifat a’r sector cyhoeddus nifer o fanteision gan fod y grŵp, gyda’i gilydd, yn gallu galw ar arian y sector cyhoeddus ac arweinwyr gwirfoddol sy’n cael eu defnyddio’n effeithiol wedyn gan y gweithredwr masnachol, er enghraifft wrth ddatblygu gwefan ddeniadol a hybu’r ŵyl i’r 18,000 o gerddwyr yn eu cronfa ddata. Gweler berwickwalking.co.uk

Mae Gŵyl Gerdded Gogledd y Pennines yn cynnwys canllawiau ar sut y dylai arweinwyr ac eraill ymwneud â phobl sydd ag amryw o anableddau (gweler xxx).  Gallech gydategu hyn â hyfforddiant. Gofynnwch i’ch grŵp mynediad anabledd lleol a allan nhw helpu.

Gofynnodd Gŵyl Gerdded Glenkens i’r grŵp achub mynydd lleol redeg rhaglen hyfforddi i arweinwyr teithiau cerdded.  Sicrhaodd hyn hyfforddiant o safon am bris oedd yn cynnig gwerth am arian a chreu cyllid i’r grŵp Achub Mynydd.

Mae gan Ŵyl Gerdded Ynys Wyth system raddio gynhwysfawr â symbolau hawdd eu deall i esbonio cyflymder, faint o straen yw pob taith, y cyfleusterau ar hyd y daith a gwybodaeth arbennig i bobl sy’n ei chael yn anodd symud o gwmpas (gweler tudalen symbolau Gŵyl Ynys Wyth).

Mae gan Ŵyl Gerdded Talgarth system syml o bedair gradd sy’n cyfuno pellter a faint o straen yw pob taith (gweler graddau Talgarth).

Sicrhaodd Gŵyl Gerdded Winchcombe gyhoeddusrwydd cenedlaethol drwy wahodd newyddiadurwyr cerdded ac ysgrifenwyr teithio i ymweld â Winchcombe a’r ŵyl.  Mae darparwyr llety fel arfer yn fodlon rhoi ystafell am ddim i newyddiadurwyr ar ymweliad a bydd pobl eraill yn helpu gyda chostau ychwanegol.

Cynghorion

“Y duedd yw bod arweinwyr yn cynnig llawer o deithiau cerdded hir ac anodd.  Ond yn aml mae yna fwy o alw am deithiau byr sy’n cynnig rhyw ddiddordeb ychwanegol.” David Thomas, Gŵyl Gerdded Crucywel

Rhowch brofiad cyfeillgar o safon a bydd pobl yn dod yn ôl ac yn eich argymell chi i bobl eraill! Mae Gŵyl Gerdded Langholm yn darparu te a theisennau ar ôl teithiau cerdded.  Mae’r costau’n cael eu talu gan y ffi am y daith.

Mae gan y gwefannau hyn restrau o wyliau cerdded. Anfonwch eich manylion atyn nhw. walkingfestivalsuk.comwalkingpages.co.uk

Ceisiwch ddod o hyd i themâu ehangach y gallwch ymuno â nhw. Yn 2015, trefnodd Gŵyl Gerdded Gogledd y Pennines thema i gyd-fynd â 50fed pen-blwydd Ffordd y Pennines.

Byddwch yn realistig ynglŷn â’ch costau a pheidiwch bod ofn codi tâl.  Mae pobl yn fodlon talu pris teg am gynnyrch o safon here