Bydd taith gerdded a gaiff ei chynllunio a’i hybu’n effeithiol yn:
- denu ymwelwyr drwy gydol y flwyddyn, a thrwy hynny yn lleihau effaith y tymhorau ar ymwelwyr, a fydd yna yn cyfrannu at gynaliadwyedd tymor hir busnesau lleol
- helpu i ymwelwyr aros am gyfnod hirach
- gwasgaru twristiaid i lefydd sydd ddim yn cael llawer o ymwelwyr
- annog pobl i ddod eto ac i argymell yr ardal i’w ffrindiau
Mae teithiau lleol yn apelio at ystod llawer ehangach o’r cyhoedd na llwybrau sydd â phellter hir. Mae hyn yn golygu nad ydych chi’n cyfyngu’ch apêl, ond yn ei ehangu i ddenu pobl o bob gallu, ystodau oedran a grwpiau incwm. Felly, pan fyddwch chi’n chwilio am gyllid i’ch taith, bydd yn fwy cymwys.
Am fwy o wybodaeth ynghylch datblygu a gweithredu agwedd a dulliau cynaliadwy i dwristiaeth, wedi’u seilio ar safon uchel, dilynwch y ddolen isod i dudalennau Prifysgol Aberystwyth ar Reoli Ansawdd Integredig. Petai chi â diddordeb yn dilyn y cysyniad hwn, cysylltwch â Thîm Twristiaeth Awdurdod y Parc Cenedlaethol.