Mae llythrennedd a rhifedd yn elfen bwysig o’n holl gyrsiau.
Cwrs | Maes cwricwlwm | Disgrifiad | Lleoliad |
---|---|---|---|
Bioamrywiaeth – Archwilio Bwystfilod Bach | Gwyddoniaeth | Dysgu am yr amrywiaeth o fywyd sydd mewn coetir a dŵr. | PGCYN |
Bioamrywiaeth – Coed tal, cynefinoedd a chadwyni bwyd | Gwyddoniaeth | Dysgu am y coed yn y parc gwledig a phwy sy’n gwneud eu cartrefi ynddynt. | PGCYN |
Tirweddau a Thirffurfiau – Uwchlaw ac Islaw’r Ddaear | Daearyddiaeth/ Gwyddoniaeth |
Archwilio prif nodweddion a thirffurfiau’r dirwedd drawiadol yn ardal y Parc Gwledig. | PGCYN |
Tirweddau a Thirffurfiau – Llwybr Amser Daearegol | Daearyddiaeth/ Gwyddoniaeth |
Gweithgareddau ymarferol i archwilio’r ffordd y cafodd ein tirwedd ei chreu a dyfodol ein tirwedd. | PGCYN |
Goroesi yn y Parc Cenedlaethol | Daearyddiaeth, Gwyddoniaeth, ABGI, Celf, DaTh, Hanes, Mathemateg, AG | Ymarferion adeiladu tîm sy’n cyflwyno disgyblion i adeiladu llochesau a’r ffordd roedd pobl yn hel bwyd a llunio offer yn y gorffennol pell. | PGCYN |
Sgiliau Map a Chwmpawd | Daearyddiaeth, ABGI | Datblygu sgiliau cyfeiriannu o fewn y Parc tra’n dysgu am gynaliadwyedd a datblygu cynaliadwy. | PGCYN |
Cerdded y Ddaear | Celf, ABGI, Gwyddoniaeth | Profi cyfoeth a rhyfeddodau byd natur gan ddefnyddio’r holl synhwyrau a chreu gwaith celf gan ddefnyddio deunyddiau naturiol. | PGCYN |
Archwilio Afonydd | Daearyddiaeth | Archwilio tarddiad yr Afon Tawe a dilyn ei thrywydd drwy’r Parc gan ddysgu am erydiad a dyddodiad. | PGCYN |
Croeso i’r Parc Cenedlaethol | Gwyddoniaeth, Daearyddiaeth, ABGI | Cyflwyniad darluniadol sy’n cyflwyno’r syniad o Barc Cenedlaethol, y cynefinoedd, bywyd gwyllt a defnydd y tir yn y man arbennig hwn (hyd at awr). | Canolfan Fynydd |
Goresgynwyr ac Anheddwyr | Hanes | Diwrnod cyffrous yn edrych ar fywyd yn Oes y Cerrig, yr Oes Efydd a’r cyfnod Rhufeinig ym Mannau Brycheiniog, gan gynnwys taith gerdded i gaer Oes Haearn. Creu golygfa brwydr rhwng y Rhufeiniaid a’r Celtiaid, profi bywyd beunyddiol fel Celtiaid a gorffen gyda mwynhau gwledd i ddathlu ffrwyth eich llafur! | Canolfan Fynydd |
Datgloi Trysorau’r Parc Cenedlaethol | Gwyddoniaeth, Daearyddiaeth, ABGI | Gan ddefnyddio ein Cist Drysor unigryw, dysgu am amrywiaeth rhyfeddol Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Gweithgareddau difyr, rhyngweithiol sy’n cefnogi’r Cwricwlwm Cenedlaethol ac adlewyrchu ein hymrwymiad i natur a datblygu cynaliadwy ar gyfer y dyfodol (dwy awr). | Canolfan Fynydd |
Taith Gerdded i Ddarganfod | Daearyddiaeth, Hanes, Gwyddoniaeth | Profi tirwedd ysblennydd canol y Bannau ar daith gerdded fer dywysedig ar draws y gweundir cyfagos i’r Ganolfan Fynydd. Dysgu am y bywyd gwyllt, defnydd y tir a’i hanes (hyd at awr). | Canolfan Fynydd |
Taith Gerdded ar y Mynydd | Daearyddiaeth, Gwyddoniaeth, ABGI | Taith gerdded hirach hyd at 11km ar lwybrau cerdded, gweundir a bryn agored. Gan gynnwys darllen map a gweithgareddau er mwyn dysgu am ddefnydd y tir a thirwedd y Parc Cenedlaethol (pedair i chwe awr). | Canolfan Fynydd |
Sgiliau Map a Chwmpawd | Daearyddiaeth, ABGI | Yn dilyn gwers sylfaenol fel cyflwyniad, datblygu sgiliau map a chwmpawd a gweithio fel tîm i oresgyn heriau cyfeiriannu (awr neu fwy). | Canolfan Fynydd |
Profiad Cyffrous | Celf, ABGI, Gwyddoniaeth | Cymryd cam cyffrous i fyd natur. Mwynhau cyfres o weithgareddau ymarferol gyda’r nod o ymgysylltu’r synhwyrau a’r dychymyg (45 munud). | Canolfan Fynydd |
Taith Gerdded i Sgwd Gwladys | Daearyddiaeth, Gwyddoniaeth | Cwrs diwrnod llawn yn cynnwys taith gerdded 2.5 milltir yn dilyn Afon Nedd Fechan i Sgwd Gwladys. Gellir gweld olion daeareg a hanes diwydiannol yr ardal ar hyd cwm yr afon. | Geoparc y Fforest Fawr |