| Archwilio Bwystfilod Bach |
Gwyddoniaeth |
Archwilio bwystfilod bach yn unionyrchol mewn cynefinoedd gwahanol. |
| Creaduriaid o’r Dyfnderoedd |
Gwyddoniaeth |
Archwilio’r ffordd y mae rhywogaethau gwahanol yn addasu i’w hamgylchedd. |
| Mamaliaid y Goedwig |
Gwyddoniaeth |
Dysgu am famaliaid y goedwig a’u lle yn y gadwyn fwyd. |
| Heicwyr Naturiol y Nos |
Gwyddoniaeth |
Profi synau ac awyrgylch cefn gwlad yn y nos mewn amgylchedd diogel. |
| Ffyn Storïau |
Celf, Llythrennedd |
Defnyddio deunyddiau naturiol i ail-ddweud eich stori am daith a chreu swfenîr i fynd adref, yn nhraddodiad Brodorion America. |
| Taith Gerdded Tor y Foel |
Daearyddiaeth, Gwyddoniaeth |
Taith gerdded o dair milltir i ben Tor y Foel. |
| Helfa Hanesyddol |
Daearyddiaeth, Hanes, ABGI |
Datblygu sgiliau map a chwmpawd wrth chwilio am neges o’r gorffennol sydd wedi’i chladdu. |
| Cerdded y Ddaear |
Celf, ABGI, Gwyddoniaeth |
Defnyddio eich holl synhwyrau i adeiladu perthynas wrth deimlo a deall byd natur. |
| Taith Gerdded y Sgydiau |
Daearyddiaeth, Gwyddoniaeth |
Cwrs diwrnod llawn yn cynnwys taith mewn bws mini, ac wedyn cerdded ar hyd afon Nedd Fechan at Sgwd Gwladys. |
| Her Goroesi |
ABGI |
Cwrs hanner diwrnod neu gyda’r nos yn yr haf. Dysgu plant am ddiogelwch mewn ardaloedd ucheldir gyda gweithgareddau adeiladu tîm difyr. |
| Archwilio Afonydd |
Daearyddiaeth |
Dysgu am y ffordd y mae dŵr wedi ffurfio’r dirwedd gan archwilio a thrafod. |
| Ymweld â Fferm |
Gwyddoniaeth, Daearyddiaeth, Mathemateg |
Ymweld â fferm fynyddig leol a gaiff ei rheoli’n gynaliadwy o dan gynllun amaethyddol Tir Gofal, lle caiff technegau ffermio traddodiadol eu defnyddio. |
| Diwrnod y Bobl Gynnar |
Hanes, Daearyddiaeth |
Profi agweddau ar y ffordd Geltaidd o fyw yng Nghymru ac effeithiau’r ymosodiad Rhufeinig. |
| Eco-lwybr |
Daearyddiaeth, Gwyddoniaeth, Mathemateg, D a Th, Dinasyddiaeth, ABGI |
Datblygu ymwybyddiaeth plant ynghylch eu heffaith ar yr amgylchedd gan ddefnyddio dull trawsgwricwlaidd. |
| Posau a Phroblemau |
Daearyddiaeth, ABGI, Mathemateg |
Y plant yn cerdded ar hyd llwybr mewn timau, gan ddatrys problemau a dysgu am ddatblygu cynaliadwy a’r Parc Cenedlaethol ar hyd y ffordd. |