Cyfle i archwilio sut beth oedd bywyd gwas yng nghyfnod y Tuduriaid. Dysgwch am y tasgau roedd rhaid iddyn nhw eu gwneud i gadw tŷ mawr fel Llys Tretŵr yn rhedeg yn hwylus. Rhowch gynnig ar weithgareddau awyr agored fel gwneud rhwystrau, rush peeling, a defnyddio mesuriadau Tuduraidd.
Bydd disgyblion hefyd yn ymchwilio a oedd bywyd yn fwy ecogyfeillgar nac y mae heddiw, archwilio’r Tŵr a dysgu mwy am Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
Mae’r cwrs hwn wedi’i ddylunio ar gyfer disgyblion Cyfnod Allweddol 2 a Chyfnod Allweddol 3 isaf.
Lawrlwythwch mwy o fanylion yma Llys Tretŵr – bywyd gwas
Cost: £360 bob grŵp hyd at 60 disgybl, am ddim i oedolion sy’n cyd-deithio. Am fwy o wybodaeth neu i archebu ffoniwch 01874 620463 neu anfonwch e-bost at lora.davies@beacons-npa.gov.uk