Adnodd Llysgennad Ifanc

Dathlu Santes Dwynwen – Calonnau Naturiol

Tywysoges Gymreig oedd Santes Dwynwen, merch Brychan Brycheiniog. Syrthiodd mewn cariad â’r Tywysog Maelon ac roedd hi eisiau ei briodi. Nid oedd ei Thad yn ei hoffi ac roedd e wedi trefnu iddi briodi dyn arall. Rhedodd Dwynwen i ffwrdd i’r goedwig yn y gobaith y byddai’n anghofio am y Tywysog Maelon. Syrthiodd i gysgu yn y goedwig ac yn ei breuddwyd gwelodd angel a roddodd swydd Santes y Cariadon.

Dathlwch Ddiwrnod Santes Dwynwen eleni gyda thaith gerdded drwy ein parc cenedlaethol i chwilio am galonnau ym myd natur – faint welwch chi? A fyddant yn cuddio yn y perthu neu yn uchel yn y coed? A fyddwch chi’n dod o hyd i ddeilen, boncyff neu carreg siâp calon? Pan fyddwch chi allan ar eich taith lleol creuwch calonnau naturiol gyda pethau naturiol. Pam na wnewch chi tunnu lluniau i greu cerdyn Santes Dwynwen eich hun i anfon i rhywyn arbennig?

Pan fyddwch chi’n cyrraedd adref allwch chi ‘wyrddu dy galon’wrth ysgrifennu addewid-eco? Allwch chi wneud rhywbeth bach i helpu natur? Ysgrifennwch addewid-eco ar galon werdd a’i hongian yn rhywle arbennig. Mae’r camau bach yr ydym ni y neu cymryd gyda’i gilydd yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr.

Swyn hudol naturiol Santes Dwynwen

Oeddech chi’n gwybod bod Dwynwen yn ferch i’r Brenin Brychan Brycheiniog o’r bumed ganrif?
Yng Nghymru rydym yn dathlu Dwynwen fel nawddsant cariadon ar Ionawr y 25ain.
Yn ôl y sôn, daeth angel â swyn hudol yn arogli yn hyfryd i Dwynwen iddi anghofio am ei chariad coll Maelon.
Cafodd Dwynwen dri dymuniad. Pa dri dymuniad fyddech chi’n wneud?
Allwch chi wneud swyn hudol gan ddefnyddio deunyddiau naturiol? ( Peidiwch â’i flasu, dim ond ei arogli!) Defnyddiwch y cerdyn rysáit i helpu chi ysgrifennu am y swyn hudol.

Creu ffenestri iâ hardd
Ewch i chwilio am deunyddiau naturiol hardd i greu eich ffenestri iâ eich hun.

Creuwch boncyff bwydo i adar

Yr wythnos hon rydym yn meddwl ymlaen llaw i’r RSPB Gwylio Adar y Gardd 2024. Er mwyn arsylwi a chyfrif nifer yr adar mae angen i ni eu croesawu’n gyntaf i’n gerddi. Hoffem i chi greu boncyff bwydo i adar. Daeth ein Swyddog Addysg o hyd i ychydig o boncyffion wrth fynd allan ar ei thaith gerdded leol. Aeth ei phlant drilio tyllau i mewn i’r boncyffion ar gyfer cnau a hadau. Aethon nhw ymledu menyn cnau a hadau dros y rhisgl. Roeddent hefyd wedi gwasgu caws a ffrwythau mewn i’r holl graciau a chriw. Maen nhw wedi gadael y boncyffion yn yr ardd mewn man sydd i’w weld o ffenestr yr ystafell fyw. Wrth i’r boncyffion bydru byddant yn gynefin perffaith ar gyfer chwilod a phryfed eraill.

Gobeithiwn y byddwch yn llwyddo i denu adar i mewn i’ch gardd. Pam na wnewch chi lawrlwytho ein adnoddau adar y gardd?
http://www.bannaubrycheiniog.org/…/gwobr-llysgennad…

I gymryd rhan yn RSPB Gwylio Adar y Gardd 2024 (26 – 28 Ionawr) gweler y ddolen isod:
https://www.rspb.org.uk/…/activities/gwylio-adar-yr-ardd/

Dydd Miwsig Cymru

Beth am ddathlu Dydd Miwsig Cymru ar 4 Chwefror drwy greu cerddoriaeth yn eich ysgol chi…?
Rhagor o fanylion yma https://llyw.cymru/dydd-miwsig-cymru

Llyfrnod Natur Arwyddion o’r Gwanwyn

Mae’r gwanwyn yn adeg mor brydferth o’r flwyddyn. Ceir tyfiant newydd gwyrdd, lliwiau llachar a siapau a gweadau prydferth. Ewch am dro i gasglu ychydig o ddeunyddiau naturiol i wneud eich Nodllyfr Natur Arwyddion o’r Gwanwyn eich hun yn llawn dail a blodau wedi eu gwasgu. Dyma weithgaredd ymarferol sy’n wirioneddol wneud i bobl ifanc gysylltu gyda natur a gwerthfawrogi ei harddwch.

Sylwi ar Arwyddion o’r Gwanwyn

Gwnewch y mwyaf o’r adeg gyffrous hon o’r flwyddyn ac ewch am dro i chwilio am arwyddion o’r Gwanwyn. Ceir gymaint o bethau i edrych allan amdanynt. Gallwch weld blodau prydferth, tyfiant gwyrdd ffres a blagur a chynffonau ŵyn bach ar y coed. Gallwch glywed y gwenyn yn casglu neithdar a gweld arwyddion o fywyd newydd. Defnyddiwch Sylwi ar Arwyddion o’r Gwanwyn fel canllaw a rhoi tic wrth ymyl beth rydych wedi sylwi arno.

Gwesty tuniau bychan iawn i bryfed

Ail defnyddiwch ac ailgylchwch ychydig o ddeunyddiau i wneud gwesty tuniau bychan iawn i bryfed. Bydd eich gwesty bychan iawn yn denu ac yn gartref ac yn bantri i nifer o rywogaethau o bryfed. Dewiswch wahanol ddeunyddiau naturiol i lenwi’ch tuniau wrth eu hailgylchu.

Dewi Sant – Gwnewch y pethau bychain!

Mae pawb yn gwybod fod cennin pedr yn symbol o Gymru ynghyd â’r genhinen a’r ddraig. Fodd bynnag, oeddech chi’n gwybod nad yw pob rhywogaeth o gennin pedr yn frodorol i Gymru? Mewn gwirionedd, mae’r genhinen bedr frodorol yn eithaf prin! Mae’r rhan fwyaf o’r cennin pedr a welwn yn rhywogaethau ymledol sydd wedi dianc o erddi.

Beth am fynd am dro i geisio adnabod y genhinen bedr frodorol. Mae’n ffynnu mewn coetiroedd a dolydd llaith gan dyfu mewn clystyrau’n gorchuddio’r ddaear. Planhigyn byr yw e, â chwe phetal melyn golau’n amgylchynu trymped melyn euraid. 

Wyddech chi fod Dewi Sant, nawddsant Cymru wedi dweud wrthym ni am wneud y pethau bychain? Allwch chi wneud chwech o bethau bach i helpu natur? Gallech chi fwydo’r adar, plannu planhigion mae gwenyn yn eu caru, casglu sbwriel ac yn y blaen.

Mwynhewch eich Dydd Gŵyl Dewi

Gwnewch rywbeth arbennig sy’n anrheg i’r gwenyn ac yn bywiogi gardd gerllaw!

Byddwch yn brysur fel gwenynen yn ystod gwyliau’r gwanwyn hwn drwy wneud anrheg a fydd yn dod â llawenydd ac yn helpu gwenyn a pheillwyr eraill.  Oeddech chi’n gwybod bod gennym ni 270 o wahanol rywogaethau o wenyn yn y DU? Wrth i’r gwenyn symud o gwmpas o blanhigyn i blanhigyn, maen nhw’n trosglwyddo paill rhwng blodau’r planhigion ac yn helpu’r planhigion i dyfu, bridio a chynhyrchu bwyd. Hebddyn nhw, fydden ni ddim yn gallu bwyta’r amrywiaeth ryfeddol o fwyd sydd gennym heddiw. Mae gwenyn hefyd yn peillio 80% o flodau gwyllt yn Ewrop ac yn gwneud ein gerddi, lleiniau a chefn gwlad yn brydferth iawn. Felly, os ydych chi am wneud rhywbeth i helpu’r gwenyn a gwneud anrheg arbennig yn ystod gwyliau’r gwanwyn yna dyma weithgaredd y gwnewch chi ei fwynhau! #llysgennadifancbannaubrycheiniog #breconbeaconsyoungambassadors

Helfa Drysor Arswydus
Treuliwch amser yn yr awyr agored yn chwilio am gynhwysion arswydus.
Allwch chi gasglu’r cynhwysion sydd eu hangen i wneud hylif hud?
Bydd angen bwced neu grochan a ffon fawr ar gyfer troelli!

Allwch chi ddod o hyd i:
– Pelen llygad coblyn (concyr)
– Brigau o goes ysgubell gwrach
– Nodwyddau gwau tylwyth teg (nodwyddau pinwydd)
– Gwe pry cop
– Deilen â phwynt fel siâp ystlum
– Deilen hydref lliw pwmpen
– Cwpanau yfed tylwyth teg bach (cwpanau mes)
– Sgerbwd deilen
– Adenydd Tylwyth Teg (hadau masarn)
– Gwallt mân o farf Dewin (cennau)

Creu cebab dail
Yr hydref yw’r amser perffaith i ddod o hyd i lawer o ddail o wahanol liwiau.
Wrth fynd am dro yn lleol faint o wahanol liwiau o ddail allwch chi eu casglu?
Allwch chi eu rhoi ar frigyn tenau, â phwynt i wneud cebab dail?
Allwch chi ddefnyddio’r gwahanol liwiau i wneud patrwm?

Perimedr Pwll

Gweithgaredd llawn hwyl gyda phyllau!
Nid yw rhai pobl yn hoffi’r glaw, ond rydyn ni’n meddwl ei fod yn amser grêt i fynd i’r awyr agored a dysgu mewn pyllau dŵr. Felly gwisgwch eich welingtons a’ch dillad glaw, gafael mewn peth llinyn neu wlân, pren mesur a thâp mesur a gwneud y mwyaf o’r pyllau o’ch cwmpas.

Gorsaf yfed i wenyn a phili pala

Ffordd ymarferol a chreadigol i ddenu natur i mewn i’ch gardd.  Byddwch yn greadigol a gwneud gorsaf yfed syml ond hardd ar gyfer y gwenyn a phili pala sy’n ymweld â’ch gardd.

Creu mini gartrefi’r nos

Mae anifeiliaid y nos yn anifeiliaid sy’n fywiog yn ystod y nos ac yn cysgu yn ystod y dydd. Er mwyn goroesi, maen nhw wedi gorfod addasu a datblygu’u synhwyrau gweld, arogli a chlywed. Mae Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn gartref i nifer o rywogaethau o anifeiliaid y nos. Mae rhai yn brin ac o dan fygythiad ac eraill yn cael eu gwarchod. Mae un o boblogaethau mwyaf y DU o’r ystlum bedol leiaf, prin, i’w gael yng Nghwm Wysg. Mae’r pathew yn rhywogaeth gwarchodedig Ewropeaidd ac mae’n wybyddus fod ychydig o boblogaethau, bychan ond pwysig ym Mannau Brycheiniog. Darganfuwyd y gwyfyn Silwraidd, sy’n rywogaeth gwarchodedig, prin o ganlyniad i arolygon noson wyfynod a gynhaliwyd ar y Mynyddoedd Duon.

Rydym wedi paratoi cyfres o gardiau Ffeithiau er mwyn i chi allu dysgu mwy am ein hanifeiliaid y nos. Dilynwch y ddolen ddilynol i ganfod ein hadnoddau
Ffeiliau Ffeithiau – Anifeiliaid y nos

Ond nid yw pob anifail yn y Parc Cenedlaethol yn anifail y nos. Mae rhai anifeiliaid yn greaduriaid y dydd ac yn fywiog yn ystod y dydd ac yn cysgu yn y nos. Allwch chi feddwl am anifeiliaid y dydd? Mae rhai eraill yn anifeiliaid y dydd a’r nos! Rhowch dro ar ein diagram Venn.

Diagram Venn Anifeiliaid y nos

Nawr, na wnewch chi ddefnyddio’ch sgiliau i greu eich anifeiliaid yn nos eich hunain. Gallwch ddefnyddio clai a deunyddiau naturiol i greu gwdihŵ, draenog, pathew neu ystlum. Allwch chi ddefnyddio’r deunyddiau naturiol rydych chi wedi’u canfod i greu cartrefi diogel ar gyfer eich anifeiliaid y nos?

Os ydych wedi mwynhau adeiladu mini cartrefi, pam na wnewch chi adeiladau gwâl i chi eich hunain i chwarae ynddi.

Creuwch Bannau Iâ

Mae Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn ‘dirwedd fyw’ warchodedig lle mae pobl yn byw ac yn gweithio. Mae pobl wedi gwneud Bannau Brycheiniog yn gartref iddynt ers miloedd o flynyddoedd. Credir bod pobl yn arfer cynnau tanau signalau (Bannau) ar ben y mynyddoedd i rybuddio goresgynwyr neu fel ffordd o gyfathrebu. Allwch chi ddefnyddio deunydd naturiol i greu Bannau Iâ? Rydym wedi defnyddio brigau i greu ein ni, ond gallech ddefnyddio unrhyw ddeunyddiau naturiol rydych chi’n dod ar draws ar eich taith gerdded leol.

I wneud eich Bannau Iâ bydd angen:

  • 2 gynhwysydd, un yn llai na’r llall
  • Cerrig i bwyso’r cynhwysydd tu mewn i lawr
  • Deunyddiau naturiol hardd
  • Dŵr
  • Noson oer (neu rewgell)
  • Cannwyll bach

Creu ‘Mistar Urdd’ naturiol

Eleni bydd yr Urdd yn dathlu ei 100 Pen-blwydd. 🤩 💯 Bydd y dathliadau yn dechrau ar ddydd Mawrth, 25ain Ionawr gyda pharti Pen-blwydd mwyaf erioed yn hanes yr Urdd ac ymgais ddau deitl Guinness World Records™. I gymryd rhan dilynwch y ddolen isod: www.urdd.cymru/cy/

Calendr Natur yr Adfent
Mae natur yn llawn o gymaint o bethau hardd a lliwgar. Cyfrwch y dyddiau tan y Nadolig trwy gasglu gwahanol bethau naturiol pob dydd. Cadwch nhw yn eich calendr Adfent wedi’i ailgylchu.

Gwreiddiau Rygbi – Creu eich brigyn Chwaraewr Rygbi eich hunan

Dyma’r penwythnos pan fydd y Bencampwriaeth Rygbi’r Chwe Gwlad yn cychwyn.  Wyddech chi fod llawer o’r chwaraewyr a’r dyfarnwyr rygbi yn dod o Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog?   Yn wir, mae un o’n Wardeiniaid ni ein hunain sy’n byw yn y Parc Cenedlaethol yn Ddyfarnwr Pencampwriaethau adnabyddus.  Y tymor diwethaf, roedd y 4ydd swyddog ar gyfer Pencampwriaeth Rygbi’r Chwe Gwlad. 

Poblogaeth Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ar hyn o bryd yw 33,000. Pe byddai pawb sy’n byw yn y Parc Cenedlaethol yn mynd i wylio gêm yn Stadiwm y Principality yng Nghaerdydd, dim ond yr haen uchaf o seddi fydden ni’n ei lenwi.   Ond, pe byddem ni’n mynd a’r holl ddefaid o’r Parc Cenedlaethol yno, yn bendant fyddai yna ddim digon o laswellt iddyn nhw ei fwyta!

Rydyn ni wedi paratoi rhai Proffiliau Chwaraewyr ‘Gwreiddiau Rygbi’.  Allwch chi ddefnyddio’r cardiau hyn a map o Barc Cenewdlaethol Bannau Brycheiniog i ddangos o ble mae’r chwaraewyr yn dod? Pam nad ewch chi am dro i chwilio am ddeunyddiau naturiol sy’n gysylltiedig â Phencampwriaeth Rygbi’r Chwe Gwlad? Gallech wneud Palet Pêl Rygbi Natur.

Nawr, beth am wneud eich ‘brigyn Chwaraewyr Rygbi’ eich hunan? Allwch chi ganfod deunyddiau naturiol i gynrychioli crysau rygbi pob un o’r Chwe Gwlad? Pam na wnewch chi greu eich hoff chwaraewr rygbi? Fe fyddem ni wrth ein bodd yn gweld eich ‘brigyn Chwaraewyr Rygbi’.

Byddwch yn arwr gaeafgwsg 

Oeddech chi’n gwybod bod nifer draenog yn Brydain wedi lleihau dros y blynyddoedd diwethaf. Gallwn helpu drwy sicrhau ein bod yn darparu dŵr, bwyd a lloches iddyn nhw. Allwch chi ddefnyddio deunyddiau sydd gennych gartref neu yn yr ysgol i adeiladu cysgod i ddraenog. Bydd draenogod yn chwilio am leoedd diogel a chynnes i gaeafgysgu felly allwch chi eu helpu.
Yma gallwch weld cwpl o gysgodfeydd cafodd eu hadeiladu gan blant ein Swyddogion Addysg. Mae’n nhw wedi defnyddio briciau a boncyffion ar gyfer un a hen twb plastig bwyd adar ar gyfer un arall. Maent wedi eu rhoi mewn mannau diogel yn yr ardd ac wedi gwneud yn siŵr eu bod yn cael eu gorchuddio i mewn ac yn llawn dail sych. Gobeithio y daw’r ddraenogion i aros.