Cynllun Datblygu Lleol 2025 – 2045

Cytundeb Cyflawni Drafft ar gyfer Cynllun Datblygu Lleol Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog 2025 – 2045

Mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol wedi penderfynu ymgynghori ar Gytundeb Cyflawni drafft ar gyfer paratoi’r Cynllun Datblygu Lleol cyn ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru i’w gytuno.

Mae’r dogfennau ar gael ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus am gyfnod o 8 wythnos o ddydd Iau 1 Mai tan ddydd Iau 26 Mehefin 2025.

I weld y ddogfen ddrafft, cliciwch ar y ddolen ganlynol: https://bannau.oc2.uk/.

Rydym wedi cyflwyno system ymgynghori newydd. I gael mynediad iddo, dilynwch y ddolen uchod a chreu cyfrif gan ddefnyddio eich cyfeiriad e-bost a chyfrinair. Unwaith y byddwch wedi cwblhau’r cofrestriad, bydd gennych fynediad i’r ddogfen ymgynghori ac unrhyw ymgynghoriadau yn y dyfodol trwy eich cyfrif.

Rydym yn eich annog i gyflwyno eich sylwadau ar y ddogfen gan ddefnyddio’r system ymgynghori newydd. Fodd bynnag, byddwn hefyd yn derbyn ymatebion ysgrifenedig fel a ganlyn:

E-bost:  

LD*@*************ov.uk

Post:
Y Tîm Strategaeth a Pholisi
Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog
Plas Y Ffynnon
Ffordd Cambrian
Aberhonddu
LD3 7HP

Bydd Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn ystyried yr holl sylwadau a ddaw i law ar y Cytundeb Cyflawni drafft cyn ceisio cytundeb Llywodraeth Cymru iddo.