Cynllun Lle

Cynllun Lle yn y Parc Cenedlaethol

Cynllun Lle yw’r cyfle i gymuned i ddod at ei gilydd a siarad am yr hyn sydd angen iddo ddigwydd er mwyn gwneud y lle gorau y gall fod. Pwrpas cynllun lle yw: –

  • Casglu tystiolaeth am eich ardal i ddeall pa faterion mae’r gymuned yn eu hwynebu a pha gyfleoedd sydd ar gael
  • Siarad gyda’r gymuned ehangach a’r rhanddiliaid am sut fydd yr ardal yn datblygu, a beth sydd angen ei wneud ar gyfer lleiant y gymuned yn y dyfodol.
  • Cytuno ar sut rydych chi eisiau i’r agweddau gwahanol ar eich lle i fod yn y dyfodol
  • Cytuno ar gynllun i weithio tuag at y dyfodol hwn, gan gynnwys, lle’n berthnasol, polisïau ar gyfer gwneud penderfyniadau am gynllunio, a chynllun gweithredu i amlinellu sut mae materion sydd yn cael eu darganfod yn mynd i gael sylw.
  • Cael y gymuned a rhanddeiliaid allweddol i gytuno ar y cynllun terfynol hwnnw, a’i fabwysiadu gan yr Awdurdod Parc Cenedlaethol (APC), o bosbil i’w ddefnyddio fel Canllaw Cynllunio Atodol (CCA) (h.y. fel ffordd o gyfrannu barnau’r gymuned yn y broses o wneud penderfyniadau cynlluno)

Rydym yn awyddus i gynnig y cyfle i bob gymuned yn y Parc Cenedlaethol i ysgrifennu eu Cynllun Lle eu hunain ar gyfer eu hardal, sy’n gallu llywio penderfyniadau cynllunio.

Os ydych yn grŵp cymunedol, sydd â diddordeb mewn ysgrifennu Cynllun Lle ar gyfer eich ardal, byddai’r Parc Cenedlaethol yn hapus i’ch helpu

Rydym wedi cynhyrchu cyfarwyddyd i’ch helpu i lunio cynllun lle hwn. Mae hyn ar gael yma: Llunio Fy Mannau Brycheiniog: Canllaw Cynllun Lle

Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth, neu os hoffech i ddechrau ar y broses, cysylltwch â thîm cynllun lle ar placeplans@beacons-npa.gov.uk  neu 01874 620429