Wedi’i leoli ymysg prydferthwch arallfydol y Mynydd Du, bydd carnedd gladdu Carnau y Garreg Las yn gartref i flanced o 20 troedfedd wedi’i gwau o waith llaw – rhan o arddangosfa unigryw a chyffrous o’r enw ‘Cwtsh’ gan yr arlunydd cysyniadol Ann Jordan, o Brifysgol Fetropolitan Abertawe.
Mae’r oriel awyr agored – lle mae carnedd gladdu wedi dod yn breseb enfawr – yn syniad Ann Jordan, a gyflwynodd y cysyniad anghyffredin i’r Parc Cenedlaethol o wau’r flanced o waith llaw a’i gosod ar y Mynydd Du dwy flynedd yn ôl. Wedi’i gwau o 12 milltir o edau sydd wedi’i throelli o ddefaid mynydd lleol, mae’r flanced nodedig 8kg wedi cael ei chymharu â siôl orfaint i fabanod – ac wrth gael ei gosod allan mae’n debyg i eira ffres. Mae ‘Cwtsh’ yn dod yn fyw wrth iddo archwilio’r berthynas rhwng yr arlunydd a thirwedd ddaearol – gan ddathlu cylch bywyd, marwolaeth ac ailenedigaeth.
Mae’n arddangosfa sydd wedi cymryd blynyddoedd o ymchwil, dros 1500 awr o wau a dros 140,000 o bwythi, ond mae hefyd yn dystiolaeth fod celf yn treiddio rhai o’r safleoedd mwyaf annhebygol, ymhell o arddangosfeydd a galerïau modern, yn agor trafodaethau mewn ffyrdd annisgwyl ynglŷn â’n perthynas gyda’r amgylchedd, y gymuned, a chynaladwyedd. Gyda’r prosiect yn cael ei gyflawni o’r diwedd mae Ann yn gobeithio bydd yn helpu i newid y ffordd fod pobl yn meddwl am deuluoedd ffermio a chymunedau Cymreig. Dywedai: “Mae’r prosiect hwn wedi bod yn brofiad bendigedig. Wrth archwilio i’m perthynas bersonol i gyda’r Mynydd Du rydw i wedi cwrdd ag a dysgu gymaint am yr hanes, y diwylliant a’r bobl sy’n gweithio a byw yn yr ardal.
“Mae yna gymaint o bobl i’w diolch ond hoffwn roi crybwylliad arbennig i’r porwyr lleol, Grŵp Cyswllt Meithrin Mynydd, Cadw, CCD, Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Urdd Troellwyr, Gwehyddion a Lliwyddion Tawe, y bobl o gymunedau Brynaman a Llanddeusant, Rob Newell ym Mhrifysgol Fetropolitan Abertawe a fy nheulu.
“Un o’r pethau fy mod i’n ffeindio’n ddiddorol iawn yw sut mae’r flanced hon yn adrodd stori mor fendigedig. Rydw i wedi ymchwilio i’r llwybr arch ac mae yna gymaint o straeon ynghlwm wrtho sydd wedi treiddio trwy genedlaethau. Mae’r llwybr hwn yn chwarae rhan bwysig yn ein hanes Cymreig – mae wedi fy hudo ac rwy’n gobeithio y bydd yn hudo eraill a fydd yn dod i gerdded ar ei hyd i weld yr arsefydliad.”
Fe ddywedodd Judith Harvey: “Hwn yw’r tro cyntaf i Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog cynnal arddangosfa o’r fath hon a dyna briodol ei fod yn atgoffa o gymaint sy’n nodweddiadol Gymraeg – dirywiad y diwydiant gwlân, llwybr a droediai gweithwyr chwareli a mwynwyr, llwybr a ddilynai gwragedd ffermwyr hefyd – yn gwau wrth gerdded – dros y Mynydd Du ac wrth gwrs pwysigrwydd y dirwedd i’n cymunedau amaethyddol Cymreig. Mae bron fel petai gofnod hanesyddol o Gymru wedi’i lapio mewn un blanced.”
Mae gwreiddiau’r hen lwybr arch yn dyddio yn ôl cannoedd o flynyddoedd i adeg pan roedd dynion o’r ffermydd o amgylch Llanddeusant wedi gadael y pentref a cherdded dros y Mynydd Du i ffeindio gwaith yn y chwareli a’r mwyngloddiau glo. Adeg y Merched Beca ydoedd, a hefyd yn adeg pan roedd prisiau gwlân wedi cyrraedd eu hisaf. Pan fu farw dynion o Landdeusant yn y mwyngloddiau neu’r chwareli fe gariwyd eu cyrff tuag adref dros y Mynydd Du gan y dynion o Frynaman. Byddai’r dynion yn cwrdd hanner ffordd â’r dynion o Landdeusant ar y Mynydd Du, a fyddai wedyn yn cario’r cyrff adref er mwyn iddynt allu gorffwys o’r diwedd ym mynwent St Simon a St Jude yn Llanddeusant.
Byddai cyrff y dynion bob tro yn cael eu lapio mewn blancedi gwlân achos rhai canrifoedd yn gynt, fe ordeiniodd Deddf y Senedd ym 1666 y dylai pob corff gael ei gladdu mewn blanced wlân mewn cais i arbed y diwydiant gwlân rhag mewnforion tramor.
Mae Andrea Liggins, Deon Cyfadran i Brifysgol Fetropolitan Abertawe, Canolfan Ddylunio, Celf a’r Cyfryngau Dinefwr: “Mae Ann Jordan yn arlunydd sy’n cael effaith ar le, nid gydag awch na gwrthdrawiad swnllyd, ond gyda thirionder a chynhesrwydd, yn union fel awgrymai teitl ei waith newydd, ‘Cwtsh’. Mewn gwaith blaenorol ‘Trallwysiad’ fe lapiodd yr Ysgol Ddinefwr mewn rhuban dathlu enfawr yn ystod ei drawsnewidiad i Ganolfan Ddylunio, Celf a’r Cyfryngau Dinefwr, ar gyfer ei phrosiect ‘Cwtsh’ mae hi unwaith eto yn defnyddio’r defnydd hwn ar ffurf 12 milltir o wlân wedi’i droelli o waith llaw er mwyn lapio, amddiffyn, tywys ac amlinellu taith.
“Rwy’n edrych ymlaen at weld y gwaith yn ei le a’r daith gerdded 6 milltir fydd yn rhan o’r digwyddiad, a fydd hefyd yn atseinio’r gwaith caled fod Ann wedi arllwys mewn i’r darn o gelf gyfoes gyffrous hwn.”
Y man cwrdd ar gyfer y fendith seremonïol hon a gosodiad y flanced yw’r Eglwys St Simon a St Jude yn Llanddeusant ar y Sul y Mamau, 14eg o Fawrth ar ôl gwyliadwriaeth dros nos gan yr arlunydd. Bydd Ficer eglwys y pentref, Parch Mike Cottam, yn bendithio’r flanced ac fe fydd Judith Harvey, Rheolwr yr Ardal Orllewinol i Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, yn ei chario chwe milltir ar hyd y llwybr arch i’r garnedd gladdu lle bydd yn cael ei harddangos o’r 14eg o Fawrth hyd at y 25ain o Ebrill 2010. Bydd y flanced yna yn cael ei harddangos yn Amgueddfa Wlân Cymru, sioe MA Prifysgol Abertawe ac mae hefyd wedi’i chyflwyno i Eisteddfod Genedlaethol Cymru. Bydd lansiad ffurfiol yr arddangosfa yn cymryd lle ar y 25ain o Fawrth yng Nghanolfan Y Mynydd Du, Brynaman. Mae’r gwasanaeth yn Eglwys Llanddeusant yn dechrau am 11:15am ar Sul y Mamau 14eg o Fawrth ac yn cael ei ddilyn gan daith gerdded ar hyd y llwybr arch i garnedd gladdu Carnau y Garreg Las yn syth ar ôl y gwasanaeth. Mae’r daith gerdded tua chwe milltir o hyd ac yn eithaf ymdrechgar wrth ichi gyrraedd y garnedd. Os hoffech ymuno â Judith ac Ann am y daith gerdded yna gwisgwch esgidiau cerdded priodol a dillad awyr agored, ewch â chinio pecyn a digonedd o ddŵr. Os hoffech wybod mwy am y gwaith celf neu’r arddangosfa yng Nghanolfan y Mynydd Du, Brynaman, cysylltwch ag Ann Jordan ar b.jordan4@ntlworld.com neu drwy ffonio 07743 699 861.
Lluniau: Hawlfraint Ann Jordan
Mae’r llun yn dangos y flanced anorffenedig wedi’i gymryd dwy fis yn ôl ym Mhenrhyn Gŵyr, ger Abertawe. Mae’r flanced yn awr yn orffenedig ac yn estyn i ddiamedr o 20 troedfedd.