Plannwyd y coed hyn fel cnwd masnachol yn aml ar dir a ystyriwyd i fod yn anghynhyrchiol ar gyfer ffermio eraill. Yn anffodus, mae llawer o’r planhigfeydd hyn ar gynefinoedd prin megis gorgorsydd a rhostiroedd. Disodlwyd yr ardaloedd mwy naturiol hyn gan resi tynn o goed conwydd nad ydynt yn gynhenid i Gymru.
Fodd bynnag, mae gan yr ardaloedd conwydd hyn werth i rai bywyd gwyllt sydd wedi addasu i’r coedwigoedd newydd hyn. Mae gwiwerod coch bellach yn dibynnu ar goedwigoedd conwydd i oroesi, yn bennaf gan nad ydynt yn apelio at y gwiwerod llwyd a gyflwynwyd yn ddiweddarach. Mae ar nifer o adar ysglyfaethus angen y coed conwydd tal megis Barcutiaid Coch a Gosogion i wneud eu nythod. Er bod y tywyllwch a’r cysgod o dan y canopi bytholrwydd trwchus yn atal llawer o blanhigion rhag tyfu, gallant gynnwys llawer o rywogaethau o fwsogl a ffyngau. Mae’r cysgod hwn hefyd yn caniatáu i bryfed, yn enwedig mosgitos a gwybed hedfan mewn tywydd gwael a gall hyn fod yn ffynhonnell fwyd hollbwysig i nifer o rywogaethau o ystlumod.
Gallwch archwilio mwy o gynefinoedd coetir drwy ddefnyddio’r bar gwe-lywio ar y chwith neu ewch yn ôl i Bioamrywiaeth yn y Parc Cenedlaethol.