Clogwyni mewndirol ac arwynebau creigiau

Mae gan Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog lawer o ardaloedd o glogwyni creigiog sydd wedi’u dinoethi’n naturiol neu’n artiffisial. Mae llethrau wedi’u cerfio â rhew megis Craig Cerrig-gleisiad a Fan Brycheiniog yn glogwyni mewndirol naturiol a ffurfiwyd filoedd o flynyddoedd yn ôl. Mewn mannau eraill, mae effaith rhew neu hindreulio dilynol wedi creu llethrau o glogfeini a chreigiau. Mae enghreifftiau eraill o ddinoethi creigiau’n rhai mwy diweddar a chawsant eu creu gan brosesau chwareli neu wrth greu ffyrdd a thraciau.

Mae’r clogwyni hyn yn creu amgylchedd unigryw i fywyd gwyllt. Nid oes modd i bobl nac anifeiliaid fferm gyrraedd y clogwyni hyn, sy’n golygu eu bod yn safleoedd nythu perffaith ar gyfer hebogau tramor. Mae’r clogwyni sy’n wynebu’r gogledd yn oerach ac mae hynny wedi caniatáu i blanhigion alpaidd, megis tormaen glasgoch, oroesi yn y Parc Cenedlaethol. Ond yn yr amseroedd oerach a fu, byddent wedi bod yn fwy cyffredin o lawer. Mae holltau ac ogofâu bach ar wyneb y creigiau sy’n cynnig safleoedd clwydo i ystlumod a gall nifer o redyn a mwsoglau gwahanol gydio mewn lleoliad lle na chânt eu haflonyddu.

Defnyddiwch y bar gwe-lywio ar y chwith i archwilio cynefinoedd creigiau eraill.