Drwy gydweithio â phrosiect Twristiaeth Gynaliadwy Powys, a gydag arian ychwanegol gan Gonsortiwm Cludiant Integredig De-orllewin Cymru, comisiynodd yr Awdurdod Gynllun Trafnidiaeth i Ymwelwyr. Bwriad y Cynllun yw gwella cynaladwyedd twristiaeth ar draws Powys a Bannau Brycheiniog drwy annog ymwelwyr i ddefnyddio dulliau trafnidiaeth carbon-isel a lleihau sawl milltir mae ceir yn eu gwneud. Credir bod 88% o ymwelwyr yn teithio mewn car i gyrraedd Canolbarth Cymru ac mae’r rhan fwyaf o’r rheiny yn parhau i ddefnyddio’r car i deithio ar ôl cyrraedd. Mae’r rhan fwyaf o ymwelwyr yn teithio 300 milltir i ac o’u gwyliau yn yr ardal hon a 300 milltir neu fyw tra maent yma.
Mae’r cynllun yn cynnwys archwiliad o lwybrau trafnidiaeth ac isadeiledd cyhoeddus, archwiliad o atyniadau i dwristiaid, ymchwil i ymarfer da yn y DU ac yn Ewrop ac argymhellion ar gyfer y dyfodol.