Pan fydd wedi’i gwblhau, y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) fydd y Cynllun Datblygu newydd ar gyfer yr ardal. Bydd y Cynllun Datblygu Lleol yn llywio datblygu priodol yn ardal y Parc Cenedlaethol, a hon fydd y brif ddogfen a fydd yn cael ei dilyn wrth asesu ceisiadau am ganiatâd cynllunio.
Mae adneuo yn gam pwysig ym mhroses gynhyrchu’r CDLl, gan mai dyma pan fydd yr Awdurdod yn cyflwyno’r strategaeth, y polisïau cynllunio a’r dyraniadau tir y dymunwn eu defnyddio yn y dyfodol. Dyma fydd y cynllun y byddwn yn ei gyflwyno i’w archwilio’n annibynnol y flwyddyn nesaf. Mae’r cam adneuo hefyd yn bwysig gan mai dyma’ch cyfle chi i ddweud wrth yr Awdurdod a ydych chi o’r farn bod y cynllun yn gywir gennym.
I gael rhagor o wybodaeth, gallwch lawrlwytho’r newyddlen ddiweddaraf ar gyfer y CDLl sy’n cynnig trosolwg o’r Cynllun wedi’i Adneuo a phroses y CDLl
Newyddlen (Saesneg yn unig)
I gael cymorth â darllen adrannau allweddol o’r cynllun
Canllaw i Adolygwyr y Cynllun wedi’i Adneuo (PDF) (Saesneg yn unig)