Beth fydd yn digwydd i’m sylwadau?

Yn y pen draw, mae’r holl sylwadau a wneir ynghylch y Cynllun wedi’i Adneuo yn cael eu cyflwyno i’r Arolygydd a fydd yn craffu ar y cynllun yn ystod yr Archwiliad Annibynnol y flwyddyn nesaf.  

 

Serch hynny, mae’r sylwadau yn bwysig iawn i’r Awdurdod oherwydd mae peth gallu gennym i wneud rhai newidiadau i’r cynllun yng ngoleuni’r sylwadau a geir.  

 

Mewn ambell achos, gall sylwadau gael eu hystyried yn dystiolaeth newydd, ac yn sgil hynny bydd angen i ni ddiwygio’r cynllun i adlewyrchu amgylchiadau lleol yn well.  

 

Felly, bydd yr Awdurdod yn ystyried yr holl sylwadau ar y cynllun ac yn addo gweithredu yn unol â hynny. 

 

Bydd unrhyw benderfyniad i addasu’r cynllun yn cael ei wneud trwy benderfyniad gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol.  Byddwn yn llunio adroddiad o ganfyddiadau’r ymgynghoriad ar y Cynllun wedi’i Adneuo a byddwn yn cyhoeddi’r rhain ar y wefan; os gwnaethoch sylwadau, byddwn yn rhoi gwybod i chi am gyhoeddi’r adroddiad.  

 

Yn anffodus, nid oes gennym yr adnoddau i ateb eich holl sylwadau’n unigol.  

 

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn ein taflen

Ymateb i sylwadau ar y Cynllun (Saesneg yn unig)