Y CDU yw dogfen bolisi fwyaf cyfredol y Parc Cenedlaethol. Dyma’r brif ddogfen at bob diben cynllunio.
Lawrlwytho dogfennau’r CDU cymeradwy
CDU Mawrth 2007 – Testun Llawn (Saesneg yn unig) (Lawrlwythwch ddogfen MS Word)
CDU Mawrth 2007 – Mapiau’r Cynigion (Dewislen o ffeiliau PDF i’w lawrlwytho)
Lle bo’n briodol, mae Nodiadau Arweiniad ar Reoli Datblygu yn rhoi mwy o fanylion am weithredu Polisi’r CDU.
Statws y cynllun mewn perthynas â’r Cynllun Lleol Mabwysiedig:
Bydd mwy o bwys yn cael ei roi ar y CDU o ran penderfynu ar geisiadau cynllunio ac at ddibenion cynllunio eraill nag a wnaed gan y Cynllun Lleol Mabwysiedig blaenorol. Os oes angen copïau o Bolisïau’r Cynllun Lleol Mabwysiedig arnoch, cysylltwch â’r Tîm Strategaeth a Pholisi.
Statws y cynllun mewn perthynas â CDU Mabwysiedig
Mae bron â bod yr un pwys gan CDU wedi’i gymeradwyo gan yr Awdurdod â CDU mabwysiedig oherwydd bu’n destun yr holl ymgynghori a’r holl weithdrefnau statudol sy’n perthyn i CDU Mabwysiedig, heblaw am un eithriad, sef nad yw CDU wedi’i gymeradwyo gan yr Awdurdod wedi’i fabwysiadu’n ffurfiol.
Fframwaith y Cynllun Datblygu Statudol
Fodd bynnag, gan nad yw’r CDU wedi cael ei fabwysiadu’n ffurfiol, dyma’r sefyllfa ffurfiol: mae Fframwaith y Cynllun Datblygu Statudol ar gyfer y Parc Cenedlaethol yn cynnwys y dogfennau canlynol.
i) Cynllun Strwythur Mabwysiedig Gwent (Mawrth 1996)
ii) Cynllun Strwythur Sir Morgannwg Ganol: Cynllun Cymeradwy sy’n Ymgorffori Addasiadau Arfaethedig Rhif 1 (Medi 1989)
iii) Cynllun Strwythur Sir Powys (amnewidiad) (Chwefror 1996)
iv) Cynllun Strwythur Dyfed (gan gynnwys Addasiadau Rhif 1) (Tachwedd 1990)
v) Cynllun Strwythur Gorllewin Morgannwg (Adolygiad Rhif 2) (Chwefror 1996)
vi) Cynllun Lleol Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog (Mai 1999)
Yn amlwg, nid yw nifer o’r dogfennau hyn yn gyfredol bellach. Dyma’r rheswm pam mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol wedi cymeradwyo’r CDU i’w ddefnyddio at ddibenion Rheoli Datblygu ac mae’n ystyried bod llawer mwy o bwys gan y CDU na’r dogfennau sydd wedi’u rhestru uchod.