Man Darganfod Geobarc Fforest Fawr ar Agor

Mae Geobarc Fyd-eang UNESCO Fforest Fawr wedi agor Man Darganfod newydd yn y Geobarc ym Mharc Gwledig Craig-y-nos yng Nghwm Tawe Uchaf.  Stephanie Evans, Cyfarwyddwr Pontio Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, a agorodd y Man Darganfod, yn swyddogol, yr wythnos ddiwethaf, sef yr wythnos yr oedd Geofest, gŵyl bythefnos o’r Geobarc, i fod i chael ei chynnal ond y bu’n rhaid ei gohirio oherwydd y pandemig.  Cafodd y Man Darganfod ei greu fel man cychwyn i ymwelwyr wrth baratoi i ddarganfod y Geobarc, sydd yn hanner gorllewinol Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Wedi’i osod ar y teras allanol yng Nghraig y Nos, mae Man Darganfod y Geobarc yn cynnwys model cerfwedd efydd, cyffyradwy, tri maen hir llawn gwybodaeth a thri bwrdd dehongli.   Mae’r model efydd, a ddyluniwyd gan yr artist lleol, Rubin Eynon, yn dangos mynyddoedd a’r dyffrynnoedd y Geopbarc o amgylch Craig-y-nos. Mae’r meini hirion, hefyd wedi’u dylunio gan Rubin, yn codi ymwybyddiaeth ac yn gwella dealltwriaeth o ddynodiad Geobarc UNESCO ac yn cyflwyno ymwelwyr i storïau pennaf y Geobarc o rew, diwydiant a phobl.  Cafodd y byrddau dehongli, y cyntaf o’u bath yn y Parc, eu dylunio gan Ingleby Davies Design, pob un yn adrodd stori wahanol am y Geobarc.  Gallwch deithio o’r Glec Fawr hyd heddiw ar linell amser y bwrdd chwarae ble cewch filiynau o flynyddoedd o antur, dysgu sut y cafodd y Gribarth (y bryn uwchben Craig-y-nos) ei ffurfio gan ddiwydiant a chanfod sut y mae pobl wedi ail ffurfio tirwedd y Geobarc dros y canrifoedd.

Meddai Stephanie Evans, Cyfarwyddwr Pontio Awdurdod y Parc Cenedlaethol:
“Nid pawb sy’n gwybod fod hanner gorllewinol ein Parc yn cael ei rannau gyda Geobarc Byd-eang UNESCO, ardal o arwyddocâd daearegol, diwylliannol a threftadaeth.  Bydd Man Darganfod newydd y Geobarc yn cyflwyno pobl i’r dynodiad pwysig hwn ac yn dangos fod yna lawer mwy i’w ddarganfod yma na dim ond Pen y Fan.  Rydyn ni’n gobeithio y bydd ymwelwyr a thrigolion fel ei gilydd yn treulio amser yr haf hwn yn darganfod mannau newydd yma yn Geobarc y Parc Cenedlaethol.

Mae Parc Gwledig Craig-y-nos ar agor bob dydd 10am -5pm (rhaid talu am barcio) a gofynnir o bobl gadw at y canllawiau pellter cymdeithasol wrth ymweld â’r Geobarc ac yn y Parc Gwledig ehangach.

Roed y prosiect i adeiladu’r Man Darganfod yn cael ei arwain gan Suzannah Jones, Swyddog Dehongli’r Parc Cenedlaethol ac Alan Bowring, Swyddog Datblygu’r Geobarc ac o Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.  Cafwyd cyfraniadau ariannol oddi wrth Lywodraeth Cymru, Ardal Atlantig Interreg ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

DIWEDD

Lluniau:

  1. O’r chwith i’r dde:
    Paul Chapman, Warden Parc Gwledig Craig-y-nos, Alan Bowring, Swyddog Datblygu’r Geobarc, Stephanie Evans, Cyfarwyddwr Pontio Awdurdod y Parc Cenedlaethol, a Suzanna Jones, Swyddog Dehongli Awdurdod y Parc Cenedlaethol a model cerfwedd efydd, cyffyradwy Man Darganfod y Geobarc.
  2. O’r chwith i’r dde: Suzanna Jones, Swyddog Dehongli Awdurdod y Parc Cenedlaethol, Alan Bowring, Swyddog Datblygu’r Geobarc a Paul Chapman, Warden Parc Gwledig Craig-y-nos wrth Fan Darganfod newydd y Geobarc ym Mharc Gwledig Craig-y-nos.
  3. Un o fyrddau dehongli newydd Man Darganfod y Geobarc ym Mharc Gwledig Craig-y-nos.