Yn dilyn yr ymosodiad seibr a ddioddefodd yr Awdurdod yn ystod 12/13 Medi 2020, fe hoffen ni gyflwyno’r wybodaeth ddiweddaraf i chi ynghylch ein gwasanaethau cynllunio.
Er ei bod yn bosibl mynd ar wefan yr Awdurdod erbyn hyn, nid yw ein system rheoli dogfennau’n caniatáu i’r cyhoedd fynd at geisiadau cynllunio. Mae hynny’n golygu na allwn ni symud ymlaen gyda’r ceisiadau cynllunio presennol. Rydyn ni’n gweithio’n ddiflino i gael trefn ar hyn ond, yn y cyfamser, allwn ni ddim symud ymlaen gydag ymgynghoriadau na phenderfynu ar geisiadau cynllunio presennol na rhai newydd.
Os ydych chi wedi cyflwyno cais cynllunio’n ddiweddar, neu os ydyn ni eisoes yn prosesu un, byddwn yn dal i’w brosesu orau gallwn ni. Cofiwch fod y Porth Cynllunio’n dal i weithio. rydyn ni’n cadw’r ceisiadau sydd wedi’u derbyn i’w huwchlwytho arno pan fydd y system ar gael. Hefyd, os ydych chi cymryd rhan yn y broses gynllunio fel trydydd parti, neu fel ymgynghorai, gallwch ddal i wneud hynny a byddwn yn cadw eich sylwadau ar ffeil.
Rydyn ni hefyd yn cynnal chwiliadau cynllunio ar ran adrannau pridiannau tir ein hawdurdodau lleol h.y, Cyngor Sir Powys, Cyngor Sir Fynwy a Chyngor Sir Caerfyrddin. Yn anffodus, oherwydd natur yr ymosodiad seibr, allwn ni ddim cynnig y gwasanaeth hwnnw ar hyn o bryd. Ond rydyn ni’n gweithio ar adfer ein basdata mapiau hanes cynllunio a chyfyngiadau cynllunio i gael y gwasanaeth yn ôl mor fuan ag sy’n bosibl. Rydyn ni’n amcangyfrif y dylen ni allu ail gychwyn y gwasanaeth ar, neu cyn, dydd Llun 12 Hydref 2020.
Rydyn ni’n dilyn ein cynlluniau parhad busnes ac mae ein timau cyfrifiadurol yn gweithio’n galed i ddatrys y broblem hon gynted â bo modd. Byddwn yn cyflwyno diweddariadau pellach pan allwn ni.
Diolch i chi am eich amynedd. Rydyn ni’n ymddiheuro am unrhyw anhwylustod; os hoffech chi gysylltu â ni, e-bostiwch ni ar: planning.enquiries@beacons-npa.gov.uk – byddwn yn ateb ebyst gynted ag y gallwn ni. Neu, os hoffech chi siarad â ni, ffoniwch ein staff derbynfa yn y lle cyntaf ar un ai 07973 781479 neu 07973 781510.