Tiroedd Ysgol
Yn aml, tiroedd ysgol yw’r darnau mwyaf o fannau gwyrdd mewn ardaloedd trefol. Fel mae’n digwydd, gallant fod yn gartref pwysig i fywyd gwyllt yn ogystal â chynnig adnodd addysgol diogel ar gyfer astudiaethau i’r amgylchedd naturiol.
Coed hynafol a choed stryd
Mae coed o oedran a maint eithriadol i’w cael yng nghefn gwlad, heb eu newid am gannoedd o flynyddoedd. Gall coed stryd fod yn goed hynafol eu hunain, ond yn aml, mae ganddynt werth sy’n fwy na’u hoedran oherwydd y manteision gweledol ac ymarferol y maent yn eu cynnig i’r…
Gerddi a Rhandiroedd
Mae gerddi a rhandiroedd yn cynnig casgliad hynod amrywiol o gynefinoedd ar gyfer bywyd gwyllt. Bydd gan y rhan fwyaf ohonom ddarn bach o dir i’n hunain ac mae hyn gyda’i gilydd yn creu cymysgedd unigryw o amodau gwahanol ac adnodd pwysig i fywyd gwyllt.
Mynwentydd a mannau claddu.
Mae mannau addoli a choffa wedi dod yn hafan i fywyd gwyllt. P’un a yw’n rhan fach o amgylchedd gwledig neu’n fan gwyrdd mewn ardal drefol, mae’r mannau hyn yn cynnig nifer o gyfleoedd i amrywiaeth o rywogaethau.
Adeiladau ac adeileddau trefol
Mae ein cartrefi, swyddfeydd ac adeiladau fferm a bron pob adeilad arall yn cynnig lle i fywyd gwyllt ymgartrefu. Mae angen cysgod, gwres a diogelwch ar bob anifail ac felly mae ein cartrefi’n fannau deniadol i nifer o rywogaethau.