Coed hynafol yw’r planhigion â’r oes hiraf yng nghefn gwlad. Gallai rhai ohonynt, megis coed derw, fod wedi sefyll ers y canol oesoedd. Gallai coed eraill ag oes fer, megis coed bedw, fod yn 100 oed ond gallant gefnogi cyfoeth o fywyd gwyllt o hyd.
Wrth i goed heneiddio, maent yn tueddu i bydru, rhwygo a ffurfio rhisgl â holltau dwfn. Mae pob un o’r rhain yn lleoedd deniadol i fywyd gwyllt, p’un a yw’n gnocell y coed yn gwneud cartref mewn cangen farw, neu chwilen sy’n bwyta pren marw. Yn wir, er y gallai coeden ymddangos yn farw neu’n sâl, gall gynnal mwyfwy o fywyd gwyllt. Mae angen y coed hynafol hyn ar lawer o infertebratau a ffyngau, a gall y gofod ffisegol ar goeden fawr gynnal miloedd o bryfed. Mae’r digonedd hwn o anifeiliaid bach yn denu adar megis dringwyr bach neu ditwod cynffon hir, sy’n ysbeilio’r goeden am fwyd.
Mae coed stryd i’w cael ym mron pob tref yn y DU. Diolch i’n cynllunwyr trefi fwy na 100 mlynedd yn ôl y mae ein ffyrdd coediog gan iddynt sylweddoli eu gwerth am y tro cyntaf. Maent yn cynnig cysgod rhag gwres yr haf a chysgod rhag gwyntoedd y gaeaf. Maent yn amsugno sŵn a llygredd, gan dorri’r llinellau toreithiog o frics a choncrît yn siapau mwy pleserus.
Defnyddiwch y bar gwe-lywio ar y chwith i archwilio cynefinoedd trefol eraill neu ewch yn ôl i Bioamrywiaeth yn y Parc Cenedlaethol.