Mae mynwentydd weithiau’n hen iawn ac nid oes unrhyw darfu wedi bod arnynt am ddegawdau neu ganrifoedd. Yn aml, mae’r pridd yn rhydd o wrteithiau a chemegolion amaethyddol eraill ac felly mae mynwentydd yn aml yn gartref i rai o’n planhigion a ffyngau mwyaf sensitif. Mae coed aeddfed i’w cael mewn mynwentydd ac mae i’r coed hyn werth tirwedd a diwylliannol bwysig yn ogystal â bod yn gartref i adar, ystlumod ac efallai dros 100 o rywogaethau pryfed. Yn aml, mae’r eglwysi eu hunain yn gartref i ystlumod, ond mewn gwirionedd, nid ydynt yn ffafrio awyrgylch swnllyd clochdy!
Defnyddiwch y bar gwe-lywio ar y chwith i archwilio cynefinoedd trefol arall neu ewch yn ôl Bioamrywiaeth yn y Parc Cenedlaethol