Mae effeithiau rhewlifau 10,000 o flynyddoedd yn ôl wedi gadael mannau o graig agored yn y Parc Cenedlaethol. Ar yr olwg gyntaf, maen nhw’n gallu ymddangos yn llefydd anaddas i fywyd gwyllt, ond wrth edrych yn fanylach gallwch weld bod modd i rhywfaint o fywyd gwyllt oroesi yma.
Gall mwsogl a chen dyfu ar graig noeth ac mae’r glaw trwm a’r lleithder sydd yn yr ucheldiroedd yn eu helpu i dyfu. Pan fydd y creigiau’n cael eu hollti, gall pridd tenau ddatblygu o’r llwch a chwythir i mewn neu a adewir ar ôl gan y glaw. Mae darnau bach iawn o bridd yn gallu bod yn ddigon i blanhigion dyfu, ac mae’r holltau a’r tyllau eu hunain yn gallu bod yn gartrefi i bryfed.
Mae treftadaeth ddaearegol gyfoethog y Parc Cenedlaethol wedi cyfrannu at greu dynodiad Geoparc y Fforest Fawr.
Defnyddiwch y bar llywio ar y chwith i archwilio mathau o gynefin craig.