Mae’r dŵr mewn nentydd uwchdir yn rhedeg yn gyflym a chlir. Mae’r dŵr hwn yn isel mewn maetholion ond yn uchel mewn ocsigen ac mae’n llifo dros greigiau a gwelyau ffrydiau gro. Mae nifer o weision y neidr a phryfed eraill yn ffynnu yn yr amgylchedd hwn a gellir eu gweld dros fisoedd yr haf yn hedfan i fyny ac i lawr nentydd, yn chwilio am bryfed llai i’w bwyta. Mae rhaeadrau a chreigiau wedi’u gwasgaru ar hyd y nentydd hyn, lle mae’r ewyn a’r cysgod yn cadw’r glannau’n oer ac yn llaith ac maent wedi datblygu gorchudd trwchus o fwsoglau a rhedyn.
Wrth i’r nentydd gyrraedd y tiroedd isel, mae’r dŵr yn arafu ac yn dal deunydd a olchir i mewn o’r tir cyfagos. Mae mwy o faetholion a chyda’r llif dŵr arafach, mae brwyn yn bwrw’u gwreiddiau ac yn fframio ymyl yr afon. Mae gwelyau gro’n cronni mewn rhai lleoedd ac maent yn fannau claddu wyau pwysig i bysgod a lampreiod afon.
Gwelir coed ar hyd rhannau helaeth o Afon Wysg sy’n cynnig cysgod i’r dyfrgi gwibiog ac yn ffurfio llinellau hedfan pwysig i ystlumod. Mae’r afonydd a’u glannau’n goridorau naturiol yn y dirwedd sy’n helpu bywyd gwyllt i symud o gwmpas. Mae Afon Wysg yn safle a warchodir gan gyfraith y DU ac Ewrop ac mae bron yn gwbl naturiol. Ychydig iawn o ddylanwad peirianneg sydd i’w weld, megis sythu afonydd ac adeiladu glannau uchel i atal llifogydd sydd wedi difrodi’r math hwn o gynefin mewn afonydd eraill yn y DU.
Defnyddiwch y bar gwe-lywio ar y chwith i archwilio mwy o gynefinoedd gwlyptir eraill.