Ffeniau

Gall ffeniau gynnwys amrywiaeth drawiadol o fywyd gwyllt. Mae’r ffeniau gorau’n cynnwys dros 500 o rywogaethau o blanhigion, sydd bron yn draean o’r holl blanhigion sy’n gynhenid i’r DU. Mae’r dŵr sy’n sefyll ac amrywiaeth y planhigion yn denu niferoedd mawr o bryfed megis chwilod dŵr a gweision y neidr. Mae’r gorchudd a’r cysgod a gynigir gan laswelltiroedd a phrysgwydd tal yn denu nifer o rywogaethau o adar.

Mae llawer o ffeniau wedi diflannu gan eu bod wedi’u draenio er mwyn newid defnydd y tir at ddiben amaethyddiaeth. Mewn sefyllfaoedd eraill, mae coed wedi ennill tir ac wedi ffurfio coetiroedd gwlyb a chorsydd. Fel ardal lle mae dŵr yn casglu, gall llygredd ymgasglu yn y ffen gan newid strwythur y llystyfiant.

Defnyddiwch y bar gwe-lywio ar y chwith i archwilio cynefinoedd gwlyptir eraill neu ewch yn ôl i Bioamrywiaeth yn y Parc Cenedlaethol