Eithriadau a Chyfyngiadau ar Dir Mynediad

Mae Deddf CRoW yn caniatáu i berchenogion tir a thenantiaid amaethyddol gau tir neu gyfyngu mynediad am hyd at 28 diwrnod mewn unrhyw flwyddyn. Fodd bynnag, ni all y diwrnodau hyn fod ar wyliau banc, Dydd Nadolig, Dydd Gwener y Groglith na dim mwy na phedwar diwrnod ar y penwythnos. Ni cheir cau unrhyw ardal o dir mynediad am fwy na 28 diwrnod heb ganiatâd.

Yn ogystal â’r 28 diwrnod a nodir uchod, gall perchenogion tir a thenantiaid amaethyddol wneud cais i Awdurdod y Parc Cenedlaethol (os yw’r tir yn y Parc Cenedlaethol) neu Cyfoeth Naturiol Cymru (ar gyfer tir y tu allan i’r Parc) am orchymyn i atal neu gyfyngu mynediad at dir. Gall hyn fod yn angenrheidiol am nifer o resymau, gan gynnwys atal risg o dân mewn tywydd eithafol neu am resymau rheoli tir.

Sut bydd y cyhoedd yn gwybod am gyfyngiadau i dir mynediad?

Mae gwybodaeth ynglŷn ag eithriadau a chyfyngiadau yn cael ei chyhoeddi ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru. Bydd awdurdodau parciau cenedlaethol ac awdurdodau lleol yn sicrhau bod y wybodaeth ar gael yn lleol mewn lleoliadau fel canolfannau croeso. Bwriedir hefyd rhoi arwyddion mewn mynedfeydd at dir mynediad.