Dyma grynodeb o’ch hawliau. Cewch fanylion llawn ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru
Beth yw Tir Mynediad?
Mae Tir Mynediad yn gefn gwlad agored a thir cofrestredig yn bennaf. Mae rhai ardaloedd o goedwig hefyd wedi cael eu ‘cyflwyno’ fel coedwigoedd cyhoeddus, fel tir y Comisiwn Coedwigaeth, ac mae’r cyhoedd yn cael mynediad atynt.
Fodd bynnag, mae perchenogion tir a thenantiaid yn gallu cyfyngu ar fynediad y cyhoedd neu ei wahardd mewn amgylchiadau penodol. Mwy o wybodaeth am eithriadau a chyfyngiadau.
Beth alla’ i ei wneud ar Dir Mynediad?
Mae Deddf CRoW yn caniatáu i chi gerdded yn rhydd ar dir mynediad ac nid oes rhaid i chi gadw at lwybrau llinellol (fel llwybrau troed neu lwybrau ceffylau) oni bai eich bod chi eisiau gwneud hynny. Mae gweithgareddau a ganiateir yn cynnwys:
-
- cerdded neu redeg
- ymweld
- gwylio adar a bywyd gwyllt
- mynd am bicnic
- dringo
Fodd bynnag, ni chaniateir gweithgareddau fel marchogaeth, gwersylla, nofio a beicio. Mae’n rhaid i farchogwyr, beicwyr a cherbydau modur gadw at yr hawliau tramwy presennol.
Nid yw hawliau mynediad CRoW yn effeithio ar hawliau na gweithgareddau sydd eisoes yn bodoli ac efallai y bydd gweithgareddau eraill yn cael eu caniatáu gyda chaniatâd y perchennog tir.
Sut fydda i’n gwybod ble alla i fynd?
Mae tir mynediad wedi cael ei farcio’n eglur ar fapiau Chwilota (1:25,000) yr Arolwg Ordnans. Mae ardaloedd mynediad CRoW wedi cael eu lliwio’n felyn gyda ffin brown ac mae tir coedwig pwrpasol wedi cael ei ddangos mewn gwyrdd golau gyda ffin brown. Cyn dechrau eich taith gerdded, edrychwch ar map rhyngweithiol Cyfoeth Naturiol Cymru er mwyn cael y wybodaeth ddiweddaraf, lle bydd manylion ynglŷn ag unrhyw eithriadau neu gyfyngiadau yn cael eu dangos hefyd.
Mae arwyddion ar y tir wedi cael eu datblygu a dylai gwybodaeth fod ar gael mewn prif fannau mynediad, fel meysydd parcio a chanolfannau ymwelwyr. Cadwch lygad allan am y symbol mynediad newydd sy’n dangos bod y tir ar agor ar gyfer mynediad i’r cyhoedd ar droed.
Ydy hynny’n golygu y galla i gerdded ble bynnag dw i eisiau?
Nac ydy. Mae rhai ardaloedd neu fathau o dir wedi cael eu heithrio o’r hawliau mynediad newydd, ac er bod yr ardaloedd hyn efallai wedi cael eu mapio fel tir mynediad, ni fydd yr hawl newydd yn gymwys. Mae enghreifftiau yn cynnwys tir sydd o fewn 20 metr i dŷ, parciau a gerddi, cyrsiau golff ac erodromau. Mae rhestr lawn o’r tir eithriedig wëdi cael ei nodi yn Atodlen 1 Deddf CRoW.
Alla i fynd â fy nghi ar Dir Mynediad??
Mae cŵn fel arfer yn cael eu caniatáu ar Dir Mynediad, ond mae rhai cyfyngiadau wedi cael eu cynllunio i leihau unrhyw effaith newydd ar fywyd gwyllt neu dda byw.
Mae’n rhaid i gŵn gael eu cadw o dan reolaeth agos bob amser ar dir mynediad neu hawliau tramwy cyhoeddus. Rhwng 1 Mawrth a 31 Gorffennaf, neu ar unrhyw adeg arall pan yng nghyffiniau da byw, mae’n rhaid cadw cŵn ar denynnau byr heb fod yn fwy na dau fetr o hyd. Gall perchenogion tir neu breswylwyr hefyd eithrio neu gyfyngu ar gŵn am gyfnodau dros dro (fel yn ystod cyfnod ŵyna) ac mae gan Cyfoeth Naturiol Cymru y grym i gyfyngu ar gŵn at ddibenion cadwraeth natur.
A fydd unrhyw gyfyngiadau ar Dir Mynediad?
Mae Deddf CRoW yn caniatáu i berchenogion tir a thenantiaid amaethyddol gau tir neu gyfyngu mynediad mewn amgylchiadau penodol. Darllenwch fwy am eithriadau a chyfyngiadau.