Pasport Cronfeydd Dŵr

Y Cynllun Pasport
Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a Dŵr Cymru Cyfyngedig, yn masnachu fel Dŵr Cymru Welsh Water , mewn
cydweithrediad â Grŵp Darparwyr Gweithgareddau Awyr Agored De Cymru (SWOAPG), wedi trefnu’r Cynllun Pasport (y Cynllun) i alluogi grwpiau a drefnwyd, y bydd llawer ohonynt yn aelodau o
SWOAPG, i gael mynediad at y cronfeydd dŵr canlynol ar gyfer canwˆ io a chaiacio – Cronfeydd Dŵr Pontsticill, Pentwyn,Wysg a’r Bannau (gweler y mapiau a ddarparwyd). Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn gweinyddu’r Cynllun. Dylid cyflwyno unrhyw ymholiadau, ceisiadau neu syniadau i Bencadlys Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn Aberhonddu. Bydd deiliad Pasport yn cael gwybod am unrhyw newidiadau iddo.