Gyrru anghyfreithlon oddi ar y ffordd

Mae difrod amgylcheddol, amharu ar fywyd gwyllt, achosi peryglon, tarfu ar ddefnyddwyr eraill y Parc, ac effaith negyddol ar dwristiaeth i gyd yn broblemau sydd ynghlwm wrth yrru anghyfreithlon oddi ar y ffordd.

Mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn croesawu unrhyw wybodaeth yn ymwneud â gyrru anghyfreithlon oddi ar y ffordd o fewn y Parc. Gallwch lenwi’r ffurflen isod i riportio digwyddiadau penodol.

Mae’r wybodaeth a rowch yn bwysig, gan ei bod yn ein galluogi i greu darlun o’r sefyllfa a chanolbwyntio ein hadnoddau ar ardaloedd â phroblem. Caiff y wybodaeth hon ei chyflwyno i’r heddlu er mwyn iddyn nhw ymateb i’r sefyllfa hefyd.

Riportio gyrru anghyfreithlon oddi ar y ffordd i Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a Heddlu Dyfed Powys.

Fel y gellir defnyddio’ch adroddiad fel tystiolaeth, bydd angen i chi lenwi Datganiad Tyst i Heddlu Dyfed Powys.

Dylid postio’r ffurflen hon at

PC Rob Griffiths 68

Pencadlys Rhanbarthol Heddlu Dyfed Powys

Plas Y Ffynnon

Ffordd Cambrian

Aberhonddu LD3 7HP

Datganiad Tyst