Bob blwyddyn, mae rhyw 3.8 miliwn o bobl yn ymweld â Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, sy’n treulio tua 4.2 miliwn o ddiwrnodau yma.
Mae’r busnesau twristiaeth niferus yn y Parc Cenedlaethol a’r cymunedau sy’n dibynnu ar eu hincwm, yn elwa’n fawr o’r ymweliadau hyn. Mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn gweithio’n agos â nhw i sicrhau bod twristiaeth yn dod â chymaint o fuddion i’r gymuned a’r amgylchedd â phosibl wrth leihau a rheoli’r effeithiau y mae’r ymwelwyr hynny yn eu cael.
Mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn gweithio i hybu mwynhad ac annog dealltwriaeth o’r ardal gan y cyhoedd ac integreiddio hyn gyda chadwraeth yr hyn sy’n gwneud y lle’n arbennig. Mae hyn yn cynnwys llunio gwybodaeth a dehongliad, rheoli hawliau tramwy cyhoeddus ac ardaloedd mynediad, meysydd parcio a thoiledau a gwasanaeth wardeniaid.
Defnyddiwch y ddewislen i ddarllen am y strategaethau, mentrau, partneriaethau a chynadleddau amrywiol sydd ar waith i gynorthwyo ein nodau.
- GWEITHREDU TWRISTIAETH – Cylchlythyr y gellir ei lawrlwytho (Gwanwyn 2007) yn arbennig ar gyfer diwydiant twristiaeth y Parc Cenedlaethol.
- BLAS Y BANNAU – Newyddion am fwyd yn y Bannau
- AROLWG YMWELWYR 2005 Cael canlyniadau arolwg 2005 ar ffurf crynodeb neu adroddiad llawn. Mae’r data manwl hefyd yn rhoi safbwyntiau ychwanegol diddorol.
- STRATEGAETH FEICIO 2001 Mae testun y strategaeth hon ar gael yn llawn (Cymraeg,
English) neu fel crynodeb (Cymraeg,
English)