Diffinnir datblygu twristiaeth gynaliadwy, yn ôl Sefydliad Twristiaeth y Byd y Cenhedlodd Unedig, fel: “twristiaeth sy’n bodloni angen twristiaid a rhanbarthau presennol wrth amddiffyn a gwella cyfleoedd ar gyfer y dyfodol”.
Mewn ardaloedd gwledig, mae profiad yr ymwelydd yn gysylltiedig â phobl a lleoedd, ac felly mae ymgysylltiad grwpiau cymunedol ym mhroses cynllunio twristiaeth Bannau Brycheiniog yn bwysig.
Yn ôl ffigurau diweddar STEAM, mae twristiaeth gwerth dros £126 miliwn i’r economi leol bob blwyddyn, neu £4,000 i bawb sy’n byw yn y Parc. Mae’r buddion o dwristiaeth yn cynnwys:
- helpu i gynnal a chreu swyddi;
- cynnal gwasanaethau a chyfleusterau lleol;
- ysgogi mentrau a chefnogi buddsoddi mewn rheoli amgylcheddol.
Heb gymorth y gymuned leol, ni fydd buddion posibl o dwristiaeth yn cael eu gwireddu’n gyfan gwbl.