Beth sydd gennych chi i’w gynnig?

Mae’n debyg mae’r dull hawsaf a thecaf o ateb y cwestiwn hwn yw cyflawni dadansoddiad Cryfderau, Gwendidau, Cyfleoedd a Bygythiadau (SWOT). Bydd hyn yn eich galluogi chi i adnabod cryfderau, gwendidau, cyfleoedd a bygythiadau eich taith gerdded arfaethedig. Gan ddefnyddio’ch atebion, byddwch yn gallu penderfynu beth sy’n fwyaf addas i chi ei gynnig a chynllunio strategaeth i ddelio ag unrhyw fygythiadau.

Cofiwch!

Mae bygythiadau a gwendidau yn gallu newid i fod yn gyfleoedd. Er enghraifft, gallwch drefnu amseroedd agor arbennig ar gyfer yr eglwys, neu gall teithiau cerdded tymhorol gael eu cynllunio i rannu llwyth yr ymwelwyr.

Dadansoddiad SWOT

Dyma enghraifft o ddadansoddiad SWOT ar gyfer taith gerdded gymunedol ddychmygol eithaf cyffredin.

Cryfderau

  • Llawer o frwdfrydedd ac ymrwymiad gan y gymuned
  • Coed, adar a phlanhigion gwyllt
  • Hen eglwys
  • Tafarn
  • Hawliau tramwy cyhoeddus yn bodoli eisoes
  • Siop y pentref
  • Hen adeiladau yn y pentref
  • Digon o lety gwely a brecwast
  • Rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus
  • Chwarel segur
  • Golygfeydd godidog o ben bryn
  • Lle tangnefeddus i gael seibiant oddi wrth bopeth

Cyfleoedd

  • Mwy o ymwelwyr yn golygu gall y siop agor yn hwyrach a fydd yn fuddiol i’r gymuned
  • Mwy o ymwelwyr yn golygu gall yr eglwys gael ei datgloi, o dan oruchwyliaeth
  • Cynyddu/hybu’r economi leol
  • Defnyddio’r rhwydwaith trafnidiaeth leol a chynyddu gwasanaethau
  • Perchennog llety gwely a brecwast brwdfrydig am ehangu ei fusnes
  • Cysylltiadau ag Awdurdod y Parc Cenedlaethol
  • Potensial i ddenu cyllid
  • Seilio’r daith gerdded ar hen adeiladau a deunydd adeiladu e.e. coed a cherrig chwarel

Gwendidau

  • Siop yn cau yn y prynhawn
  • Planhigion gwyllt yn ymddangos yn y gwanwyn/haf yn unig
  • Adar ddim yn amlwg ac mae’n anodd eu gweld
  • Eglwys wedi cloi
  • Diffyg cyfleusterau parcio
  • Gwasanaeth bws afreolaidd

Bygythiadau

  • Chwarel yn beryglus
  • Gall gormod o ymwelwyr amharu ar yr heddwch
  • Lleihad mewn gwasanaethau bws ar ddiwedd y tymor prysur
  • Pobl leol digymwynas/anfodlonrwydd