Sut i drefnu eich taith

Wrth drefnu eich grŵp, cofiwch y pwyntiau canlynol:

  • Casglwch aelodau sydd â sgiliau amrywiol ac sydd o wahanol rannau o’r gymuned.
  • Gwnewch yn siŵr bod y grŵp yn gytûn ynghylch ei bwrpas a’i amcanion.
  • Ymgynghorwch â’r gymuned: cynnal cyfarfod neu ddyfeisio dull lle mae modd i bobl roi sylwadau ar gynigion e.e. bwrdd cynigion gyda nodiadau ‘post-it’, blwch cynigion neu arolwg o ddrws i ddrws.
  • Darganfyddwch pa sgiliau sydd gan bobl a allent fod yn ddefnyddiol ar gyfer eich prosiect.
  • Gwnewch gysylltiadau. Mae digon o bobl a all gynnig cymorth, megis eich Cyngor Cymunedol, Fforymau Mynediad Lleol, Awdurdod y Parc Cenedlaethol a chymunedau sydd wedi ymgymryd â phrosiectau tebyg.
  • Adnabod partneriaid y gallwch weithio gyda nhw.
  • Cynllunio ar gyfer y dyfodol. Ydy aelodau o’r grŵp yn fodlon rhoi cymorth gydag unrhyw waith cynnal a chadw sydd angen ei wneud tra mae’r daith ar droed?
  • Os oes angen, sefydlwch eich grŵp. Bydd grŵp sydd wedi ei sefydlu’n iawn yn atynnu arian a bydd hefyd yn golygu fod pawb yn deal yr hyn sy’n digwydd. Gall Awdurdod y Parc Cenedlaethol gynnig cyngor ar hyn, neu ewch i: www.charity-commission.gov.uk.

Fel arall, cysylltwch â’ch Cyngor Cymuned lleol i weld a allech fod yn is-grŵp o’r Cyngor.
Mae gwybodaeth bellach ynghylch rheoli grwpiau cymunedol ar gael gan Community Matters. Mae’r sefydliad yn cyhoeddi ystod o bamffledi ar bynciau amrywiol, o greu cynllun busnes i ddeddfwriaeth gwahaniaethu ar sail anabledd.  Hefyd, gallwch gysylltu â Chymdeithas Sefydliadau Gwirfoddol eich sir – Cymdeithas Sefydliadau Gwirfoddol Powys (PAVO) ar gyfer Powys.