Dyma rai awgrymiadau:
- Dod â mwy o arian i’r ardal leol
- Denu ymwelwyr newydd, a mwy o ymwelwyr i’ch ardal
- Helpu ymwelwyr i gael ymweliad mwy boddhaus
- Tywys ymwelwyr at y lleoliadau cywir a’u cadw’n glir o ardaloedd sensitif neu beryglus
- Gwarchod nodweddion arbennig drwy eu deall yn well a gofalu amdanynt yn well
- Gwella llwybrau troed ac eisteddleoedd
- Gwella’r diddordeb mewn byd natur yn eich ardal
- Gwarchod eich treftadaeth leol
- Codi ymwybyddiaeth am eich ardal
- Datblygu partneriaethau gwell gyda sefydliadau lleol
- Helpu ymwelwyr i fwynhau a gwerthfawrogi’r dreftadaeth leol
- Gwella mynediad i’ch ardal ar gyfer pobl â symudedd cyfyngedig
- Cynnig cyfleoedd addysgol ffurfiol ac anffurfiol
- Creu synnwyr o falchder ymysg pobl leol
- Annog pobl i ofalu mwy am yr amgylchedd
- Annog pobl i beidio â pharcio mewn mannau penodol