Gall bartneriaid gynnig cyngor a gwybodaeth nad oes gan eich grŵp mohonynt ac, yn bwysicach, mae prosiect partneriaeth yn fwy deniadol i sefydliadau ariannu, e.e. Cynlluniau Gwella Pentrefi Cynaliadwy (gweler Ariannu).
Dyma rai partneriaid posib:
- Grŵp Astudiaethau Natur Lleol
- Grŵp WATCH
- Grŵp Hanes Lleol
- Ysgol
- Grwpiau Dysgu Oedolion megis U3A
- Cymunedau cyfagos
- Cyngor Cymuned
- Merched y Wawr/Sefydliad y Merched
- Ffermwyr Ifanc
- Busnesau lleol
- Grwpiau Ieuenctid
- Fforymau Mynediad Lleol: cyrff ymgynghorol statudol ar wella mynediad cyhoeddus i dir yn eu hardaloedd ar gyfer pob math o adloniant awyr agored.
Bydd gweithio gyda grŵp partner hefyd yn galluogi i chi rannu ymarfer da a phrofiadau da. Efallai y byddwch yn dod ar draws rhywun sydd wedi ei wneud o’r blaen, hyd yn oed!