Bach neu fawr?
Does byth digon o amser nac arian felly mae’n rhaid i chi benderfynu beth fydd maint eich prosiect arfaethedig. Mae angen i chi benderfynu:
- beth rydych chi, a’r rheini rydych chi’n ymgynghori â nhw, yn meddwl sy’n angenrheidiol;
- a allwch chi ddenu digon o gyllid ai peidio; a
- faint o amser ac egni sydd gennych chi a’ch grŵp i roi i’r prosiect
Does dim rhaid i chi fynd dros ben llestri gan wneud peth wmbreth o waith ymarferol os nad oes angen hynny ar eich taith gerdded. Mae rhai cymunedau wedi gwario degau o filoedd o bunnoedd ac wedi cael canlyniad gwych, ond nid oes gan bawb yr un faint o amser i weithredu darn o waith mor sylweddol â hyn. Mae cymunedau eraill wedi gwario symiau llawer llai ac yn dal wedi cynhyrchu taith gerdded lwyddiannus.
Bydd llawer o lwybrau mewn cyflwr da iawn yn barod, neu dim ond ychydig iawn o waith sydd ei angen arnynt. Efallai y bydd y rhan fwyaf o’ch defnyddwyr yn ddigon hapus gyda rhywfaint o ddehongli, megis taflen neu arwydd wrth fan cychwyn y daith, manylion cyfeirio, a sylw ar wefan addas. Os felly, bydd dal angen i chi gynllunio’n dda, casglu grŵp at ei gilydd, siarad â phobl gysylltiedig, a chodi arian, ond bydd y broses yn llai cymhleth ac yn llai o draul ar eich amser.