Cyfnod Allweddol 2

Awyr Dywyll ar gyfer ystlumod

Mae yna 17 o rywogaethau o ystlumod yn y DU. Wyddech chi mai ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog y mae cartref y boblogaeth fwyaf o’r Ystlum Bedol Leiaf prin yn y DU, a’u bod i’w canfod yng Nghwm Wysg. Anifeiliaid y nos yw ystlumod, dyna pryd y maen nhw’n dod allan i fwydo. Mae gan Fannau Brycheiniog y dirwedd perffaith ar gyfer ystlumod. I oroesi, maen nhw angen pyllau, afonydd a llynnoedd, coetiroedd, gwrychoedd a hen adeiladau. Os oes yna ormod o lygredd golau, maen nhw’n meddwl ei fod yn dal yn olau dydd ac yn peidio â bwydo. Felly, mae cael awyr dywyll ym Mannau Brycheiniog nid yn unig yn braf i ni fwynhau awyr y nos,  ond mae hefyd yn bwysig i fywyd gwyllt sy’n dibynnu ar awyr dywyll.   

Hoffech chi greu bwrdd stori ar gyfer hysbyseb i hyrwyddo awyr dywyll yn eich ardal chi ac i godi  ymwybyddiaeth sut y gallai llygredd golau effeithio ar ystlumod. Does dim rhaid i’ch bwrdd stori fod yn berffaith nac yn artistig, bydd lluniau o bobl brigau’n gwneud y tro! Cadwch eich stori’n syml dim ond 6 ffrâm sydd gennych chi i adrodd eich stori. 

Bwrdd Stori Gwarchodfa Awyr Dywyll

Plannu ar gyfer gwyfynod ac ystlumod

Rydym i gyd yn gwybod pa mor bwysig yw plannu planhigion sy’n gyfoethog mewn neithdar ar gyfer y gloÿnnod byw a’r pryfed, ond ydych chi wedi ystyried plannu ar gyfer y rhai ar y shifft nos? Mae gwyfynod yn cael eu denu gan rai blodau a phlanhigion sy’n rhyddhau eu harogl gyda’r nos, sydd yn ei dro’n denu’r ystlumod. Gallwch dreulio ychydig o amser yn plannu Gwyddfid, Melyn yr Hwyr, y Goeden Fêl neu Jasmin, pob un yn gyfoethog mewn neithdar y nos. Pan fydd y disgyblion a’r staff yn mynd adref bydd rhai ar shifft y nos yn cymryd drosodd! 

Wyddech chi fod gan Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog un o’r poblogaethau mwyaf o’r Ystlum Bedol Leiaf prin, a bod y gwyfyn Silwraidd, rhywogaeth o wyfyn prin ac mewn perygl, wedi’i ddarganfod o ganlyniad i arolygon gwyfynod ar y Mynyddoedd Duon. 

Celf yr Awyr Agored 

Trowch eich dosbarth yn grochan o ystlumod 

Wyddech chi fod strwythur adenydd ystlumod yn debyg iawn  i’n dwylo a’n breichiau ni? 
Beth am gael hwyl gyda sialc ar eich iard chwarae a throi’ch disgyblion yn ddosbarth o ystlumod! 

Beth fyddwch ei angen 
Sialc 
Iard chwarae sych gydag wyneb sy’n addas ar gyfer sialcio / rolyn mawr o bapur 

Dull 

Dangoswch, fel isod, ac yna gofynnwch i’r plant weithio mewn grwpiau bychain neu barau i dynnu llun llawer o ystlumod ar yr iard chwarae. 

1. Gofynnwch am wirfoddolwr i orwedd i lawr ar yr iard gyda’u breichiau ar led i’r ochr a’u bodiau a bysedd wedi’u hymestyn hefyd. 

2. Tynnwch linell o gwmpas ben y disgybl gan ychwanegu clustiau mawr yr ystlum i’w helpu i glywed. 

3.  Tynnwch linell ar hyd yr ysgwyddau a’r fraich uchaf ac yna,  gan ddefnyddio’r bawd a’r bys blaen fel canllaw, tynnwch adenydd yr ystlum.  Gweler y diagram am help ychwanegol. 

4.  Unwaith y bydd yr adenydd wedi’u gorffen, gofynnwch i’r disgybl sefyll.  Gorffennwch y llun gyda llygaid bach (nid yw ystlumod yn ddall mewn gwirionedd, maen nhw’n gallu gweld cystal â ni yn ystod y dydd ond yn defnyddio’u sgiliau ecoleoliad yn bennaf i hedfan o gwmpas pan fydd hi’n dywyll) corff blewog, coesau bach (mae ystlumod yn gallu cropian ond does ganddyn ddim dim coesau mawr ) ac ewinedd traed bachog! 

Cyfle i ysgrifennu: Ychwanegwch labeli ar wahanol rannau o’r corff.