Gweithgareddau i’r Teulu

Safari synhwyraidd dusk

Yn ystod y dydd rydym yn defnyddio ein pum synnwyr. Wrth iddi dywyllu mae’n synnwyr o olwg yn gwanhau ond mae’r pedwar synnwyr arall yn gweithio’n galetach i wneud i fyny amdano. Mae’r synnwyr o arogl yn ymddangos yn gryfach a’n synnwyr o gyffwrdd yn fwy sensitif.  

Beth am fynd allan gyda’r nos yn eich ardal ar saffari swynhwyraidd y gwyll? Beth fyddwch yn ei glywed, ei arogli, ei gyffwrdd a’i weld? A fyddwch yn clywed yr adar olaf ar eu ffordd adref i’w nythod? A fyddwch yn gweld yr ystlumod cyntaf yn codi o’u clwydi? A fyddwch yn arogli planhigion peillio’r nos yn llenwi’r awyr gyda’u persawr?  A fyddwch yn clywed hwtian y tylluanod neu synau popian a chlicio’r pryfed?  

Beth am gymryd ychydig o amser i edrych ar awyr y nos? Ewch i fan tywyll a diffodd unrhyw oleuadau neu dortshis. Rhowch ychydig o amser i’ch llygaid addasu i’r tywyllwch. Mwynhewch wylio awyr y nos. 

Creu cytserau gyda deunyddiau naturiol 

Yn ystod eich cyflwyniad i Warchodfa Awyr Dywyll Bannau Brycheiniog, roeddech chi’n dysgu am bedair o gytserau y gallwn eu gweld yn awyr y nos ar yr adeg hon o’r flwyddyn. Cassiopeia oedd un, sydd ar ffurf ‘W’, yna Cyngus (yr Alarch) sydd fel alarch yn hedfan, Lyra y delyn ac Aquila yr eryr. Beth am fynd y tu allan i ganfod deunyddiau naturiol i ail greu siapiau’r pedair cytser? Gallwch ddefnyddio ffyn, cerrig, moch coed, mês neu aeron. Bydd hwn yn eich helpu i gofio siâp y cytserau ac yn eich helpu i’w canfod yn awyr y nos. 

Plannu ar gyfer gwyfynod ac ystlumod

Rydym i gyd yn gwybod pa mor bwysig yw plannu planhigion sy’n gyfoethog mewn neithdar ar gyfer y gloÿnnod byw a’r pryfed, ond ydych chi wedi ystyried plannu ar gyfer y rhai ar y shifft nos? Mae gwyfynod yn cael eu denu gan rai blodau a phlanhigion sy’n rhyddhau eu harogl gyda’r nos, sydd yn ei dro’n denu’r ystlumod. Gallwch dreulio ychydig o amser yn plannu Gwyddfid, Melyn yr Hwyr, y Goeden Fêl neu Jasmin, pob un yn gyfoethog mewn neithdar y nos. Pan fydd y disgyblion a’r staff yn mynd adref bydd rhai ar shifft y nos yn cymryd drosodd! 

Wyddech chi fod gan Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog un o’r poblogaethau mwyaf o’r Ystlum Bedol Leiaf prin, a bod y gwyfyn Silwraidd, rhywogaeth o wyfyn prin ac mewn perygl, wedi’i ddarganfod o ganlyniad i arolygon gwyfynod ar y Mynyddoedd Duon. 

Podlediadau Syllu ar y Sêr