Cyfnod Sylfaen

Creu mini gartrefi’r nos

Mae anifeiliaid y nos yn anifeiliaid sy’n fywiog yn ystod y nos ac yn cysgu yn ystod y dydd. Er mwyn goroesi, maen nhw wedi gorfod addasu a datblygu’u synhwyrau gweld, arogli a chlywed. Mae Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn gartref i nifer o rywogaethau o anifeiliaid y nos. Mae rhai yn brin ac o dan fygythiad ac eraill yn cael eu gwarchod. Mae un o boblogaethau mwyaf y DU o’r ystlum bedol leiaf, prin, i’w gael yng Nghwm Wysg. Mae’r pathew yn rhywogaeth gwarchodedig Ewropeaidd ac mae’n wybyddus fod ychydig o boblogaethau, bychan ond pwysig ym Mannau Brycheiniog. Darganfuwyd y gwyfyn Silwraidd, sy’n rywogaeth gwarchodedig, prin o ganlyniad i arolygon noson wyfynod a gynhaliwyd ar y Mynyddoedd Duon.

Rydym wedi paratoi cyfres o gardiau Ffeithiau er mwyn i chi allu dysgu mwy am ein hanifeiliaid y nos. Dilynwch y ddolen ddilynol i ganfod ein hadnoddau
Ffeiliau Ffeithiau – Anifeiliaid y nos

Ond nid yw pob anifail yn y Parc Cenedlaethol yn anifail y nos. Mae rhai anifeiliaid yn greaduriaid y dydd ac yn fywiog yn ystod y dydd ac yn cysgu yn y nos. Allwch chi feddwl am anifeiliaid y dydd? Mae rhai eraill yn anifeiliaid y dydd a’r nos! Rhowch dro ar ein diagram Venn.

Diagram Venn Anifeiliaid y nos

Nawr, na wnewch chi ddefnyddio’ch sgiliau i greu eich anifeiliaid yn nos eich hunain. Gallwch ddefnyddio clai a deunyddiau naturiol i greu gwdihŵ, draenog, pathew neu ystlum. Allwch chi ddefnyddio’r deunyddiau naturiol rydych chi wedi’u canfod i greu cartrefi diogel ar gyfer eich anifeiliaid y nos?

Os ydych wedi mwynhau adeiladu mini cartrefi, pam na wnewch chi adeiladau gwâl i chi eich hunain i chwarae ynddi.

Yr Ystlum a’r Gwyfyn 

Sut mae’r ystlum yn canfod ei fwyd? 

Mae’r gêm hôn yn egluro sut mae nodweddion anifeiliaid yn rhoi mantais iddyn nhw ddal eu hysglyfaeth a goroesi. Mae’n efelychu sut mae ystlumod yn defnyddio tonnau sain i ddal eu hysglyfaeth.  

Cyn dechrau’r gêm, bydd yr athro / athrawes yn rhoi ychydig o wybodaeth am ystlumod, beth maen nhw’n ei fwyta a sut maen nhw’n eu dal. Trafodwch nad yw ystlumod yn defnyddio eu golwg i ganfod bwyd. Gofynnwch i’r plant ba synhwyrau y maen nhw’n ei feddwl fod ystlumod yn eu defnyddio i ganfod eu bwyd. 

Trafodwch y cysyniad o ecoleoliad, a sôn wrth y plant y byddan nhw’n chwarae gêm ac yn smalio eu bod yn ystlumod yn chwilio am fwyd 

Eglurwch wrth y plant, yn y gêm, mai’r gwyfyn yw’r ysglyfaeth a bod ystlum, wrth hedfan, yn gwneud sŵn traw uchel i ddal ei ysglyfaeth. Mae’r tonnau sain yn symud i ffwrdd oddi wrth yr ystlum. Os bydd rhywbeth o flaen yr ystlum, bydd y sain yn ei daro ac yn sboncio’n ôl. Dyma sut y mae’r ystlum yn mesur pellter, yn ôl yr eco y mae’n ei dderbyn, sy’n dangos iddo ble mae’r gwyfyn (ecoleoliad). Er bod gan ystlumod olwg da iawn yng ngolau dydd, yn y wawr a’r gwyll, yn ystod y nos y maen nhw’n fywiog fel arfer ac maen nhw wedi datblygu’r system o ecoleoliad i allu defnyddio’u clyw main yn y tywyllwch. 

Bydd y plant yn ffurfio cylch ac yn dal dwylo. Mae’r gêm yn cael ei chwarae y tu fewn i’r cylch. Dewiswch un plentyn i fod yr ystlum ac un arall i fod y gwyfyn. Y plant sy’n aros yn sefyll yn y cylch yw’r coed. Rhowch fygydau i’w gwisgo gan yr ystlum a’r gwyfyn . (Mae’r ystlum yn dibynnu ar ei glyw i ganfod y gwyfyn. Mae’r gwyfyn hefyd wedi addasu i glywed y synau traw uchel sy’n mynd allan yn  ystod ecoleoliad, felly mi fydden nhw hefyd yn dibynnu ar eu clyw i ddianc). Bydd yr ystlum yn galw allan ‘ystlum’ yn ystod y gêm, bydd y gwyfyn yn ateb yn ôl trwy alw ‘gwyfyn’. Mae pawb arall yn y cylch yn aros yn dawel. Mae’r gêm yn parhau nes bod yr ystlum yn dal y gwyfyn. Dylai’r ystlum ddechrau sylweddoli, yr amlaf y mae’n galw allan ‘ystlum’, y hawsach yw hi i ddal y gwyfyn. Felly hefyd, mae angen i ystlumod gwneud synau traw uchel yn barhaus i ddal eu hysglyfaeth. 

FFAITH HWYLIOG: Mae pob ystlum angen bwyta 1000oedd o bryfed bob noson. 

Gêm ystlumod nos a dydd 

Cyflwyniad: 
Mae ystlumod wrth eu bodd yn byw ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog! Yma, mae llawer o leoedd tawel, tywyll i glwydo megis mewn hen ysguboriau, eglwysi a hen goed. Maen nhw’n defnyddio gwrychoedd a choetiroedd i ganfod eu ffordd o gwmpas ac wrth eu bodd gyda’r gerddi, afonydd a phyllau ble mae’r pryfed y maen nhw eu hangen yn byw. Mae’n rhaid i ystlumod fwyta llawer o bryfed i oroesi – yn wir 2000 – 3000 y diwrnod! Mae ystlumod yn hedfanwyr clyfar ac ystwyth. Maen nhw’n dal y rhan fwyaf o’r pryfed maen nhw angen eu bwyta ‘ar yr aden’, hynny yw tra maen nhw’n hedfan! Dyna pam maen nhw mor brysur yn hedfan o gwmpas yn y nos a’r gwyll. 

Daw ystlumod allan yn y nos i hela a bwydo ar bryfed. Yn ystod y dydd maen nhw’n canfod lle i glwydo h.y. cysgu, fel arfer mewn hen goeden sy’n wynebu’r gogledd, bondo tai, ysguboriau neu eglwysi – yn wir unrhyw le ble nad ydyn nhw’n rhy boeth ac yn gallu hongian wyneb i waered wrth ewinedd eu traed! Maen nhw’ cysgu yn ystod y dydd (maen nhw’n ‘nosol’. Mae anifeiliaid sy’n cysgu yn ystod y nos, megis pobl yn ‘ddiwrnodol’).  

Nid yw ystlumod yn ddall – maen nhw’n gallu gweld yn ystod y dydd ac yn defnyddio synnwyr arbennig o’r enw ‘ecoleoliad’ i ganfod eu ffordd o gwmpas! (Gweler y gêm ‘Ystlum a Gwyfyn’ i ddysgu am sut maen nhw’n gwneud hynny!). 

Sut i chwarae’r gêm ‘Nos a Dydd’ 

Byddwch angen: 

Gofod yn yr awyr agored gyda daear sych a ‘chlwydi’ y gellir eu defnyddio e.e. waliau, coed, offer cae chwarae i orffwys yn eu herbyn. 

Ffyn hud swigod, yn ddelfrydol gyda nifer o bennau 

Llun o’r haul a llun o’r lleuad / arwydd i nodi nos neu ddydd. 

Cofio – Sut mae ystlumod yn clwydo? (Yn hongian wyneb i waered wrth ewinedd eu traed). 

Dechreuwch trwy adael i’r plant chwilio rhywle yn y cae chwarae ble gallwn ni, y plant, cogio clwydo (coed, sied, wal, offer chwarae). Ymarfer gorwedd i lawr a rhoi’n traed i fyny yn erbyn y lle clwydo. Dynodi ardal chwarae ble mae gan y plant ddigon o le i glwydo a rhedeg o gwmpas ond yn aros o fewn golwg. 

Ymarfer cau llygaid, gwrando ar ba mor heddychlon a thawel yw hi – yna aros yn llonydd a chogio bod yn ystlumod yn cysgu. 

Cofiwch, mae ystlumod yn cysgu yn y dydd ond yn deffro yn y nos. Felly, pan fyddwch yn dangos y lleuad / llun adeg y nos / rhoi arwydd / dweud bod yr haul yn machlud, yna mae’n amser i’r ystlumod ddeffro! Cofiwch fod ystlumod angen bwyta llawer o fwyd (2000 – 3000 pob nos!) Gofynnwch i staff cefnogi hefyd gynorthwyo gyda ffyn hud swigod ychwanegol fel nad yw’r plant yn cystadlu am un ffon hun swigod. 

Ymarfer gwneud nifer fawr o swigod y mae’r plant yn gallu dychmygu sy’n bryfed i’w dal ‘ar yr aden’! Rhaid i’r plant ddal y swigen gyda’u dwylo a byth daro mewn i’w gilydd (cofiwch fod ystlumod yn hedfanwyr arbennig!) felly, ymarfer a gwylio cyflymder y gêm fel nad oes unrhyw ddamweiniau gyda phlant yn taro mewn i’w gilydd. 

Dangoswch ddarlun o’r haul / arwydd ei bod yn dechrau gwawrio, felly mae’n rhaid i’r plant fynd yn ôl i’w clwydi a chysgu. 

 Chwaraewch y gêm Nos a Dydd! 

Ail adrodd nes eu bod wedi deall y syniad. Allen nhw amcangyfrif faint o bryfed swigod maen nhw wedi’u dal? 

Canfod rhagor am ystlumod bendigedig! 

Creu cytserau gyda deunyddiau naturiol 

Yn ystod eich cyflwyniad i Warchodfa Awyr Dywyll Bannau Brycheiniog, roeddech chi’n dysgu am bedair o gytserau y gallwn eu gweld yn awyr y nos ar yr adeg hon o’r flwyddyn. 

Cassiopeia oedd un, sydd ar ffurf ‘W’, yna Cyngus (yr Alarch) sydd fel alarch yn hedfan, Lyra y delyn ac Aquila yr eryr. Beth am fynd y tu allan i ganfod deunyddiau naturiol i ail greu siapiau’r pedair cytser? 

Gallwch ddefnyddio ffyn, cerrig, moch coed, mês neu aeron. Bydd hwn yn eich helpu i gofio siâp y cytserau ac yn eich helpu i’w canfod yn awyr y nos.