Manylion yr Aelodau

Ms Pam Bell 

Fy maes arbenigedd penodol yw mynediad at ddŵr mewndirol a materion cysylltiedig â mynediad ar y tir. Rwyf wedi bod yn weithiwr gwirfoddol yn y maes hwn ers dros dri degawd. Rwyf hefyd yn gymwys i MSc Gwyddorau Amgylcheddol; ac ymddiddori mewn hanes lleol ac archeoleg tirwedd. 

Yn gyffredinol, rwy’n pryderu bod yr agenda ‘twristiaeth antur’ bresennol yng Nghymru yn rhoi gormod o bwyslais ar farchnata antur wedi’i becynnu drwy gyfrwng digwyddiadau proffil uchel a hyrwyddiadau a all roi pwysau gormodol ar leoliadau, sy’n dod i gael eu hystyried yn ‘gyrchfannau’ neu ‘brofiadau’ er eu mwyn eu hunain, ac wedi ymbellhau fwyfwy oddi wrth gynaliadwyedd ac ethos gwreiddiol y parciau cenedlaethol. 

Aelodaeth o Sefydliadau: 

  • Ymddiriedolwr/Ysgrifennydd Ymddiriedolaeth Mynediad a Chadwraeth Bluespace, ac un o’r aelodau sy’n cynrychioli’r ymddiriedolaeth ar Fforwm Mynediad Cenedlaethol Cymru
  • Aelod o Canŵ Cymru
  • Aelod o Grŵp Cynghori Mynediad Canŵio Prydain
  • Aelod o Gyngor Mynydda Prydain
  • Aelod Oes o’r Cyngor Astudiaethau Maes
  • Aelod Oes o Gymdeithas Hosteli Ieuenctid 

 

Mrs Rachel Chapel 

Cefais fy ngeni a’m magu ym Mannau Brycheiniog ac mae fy nheulu wedi ffermio Stad Cnewr, i’r gorllewin o Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, ers 1855 pan ddaeth fy hynafiaid i lawr o Dumfries a Galloway. Rydyn ni’n ffermwyr mynydd traddodiadol gyda defaid a gwartheg sugno mawr yn byw allan ar y bryn trwy gydol y flwyddyn. Dechreuodd fy nheulu frid defaid Brecknock Hill Cheviot – ac maent yn dal i’w cynhyrchu a’u ffermio heddiw. Rwy’n credu’n gryf yn y ffaith ein bod yn freintiedig iawn i reoli tir mewn rhan mor hardd a gwerthfawr o’r wlad a dylem wneud popeth o fewn ein gallu i warchod a gwella’r ystâd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Mae angen rheoli ffermio a’r amgylchedd law yn llaw i ddarparu bwyd, dŵr ac aer glân i ni yn ogystal â thirwedd amrywiol a chyfoethog ac mae angen annog a chefnogi cymunedau gwledig i barhau i wneud hyn. Credaf fod angen i ni weithio gyda phreswylwyr trefol a’u haddysgu i ddeall y ffordd wledig o fyw a’n bod yn croesawu twristiaid cyfrifol i’r Parc Cenedlaethol. Gallant ddod â chymaint i’r gymuned leol – ond mae angen rheoli hyn yn ofalus i sicrhau bod amaethyddiaeth, busnesau lleol a thwristiaeth i gyd yn gallu gweithio mewn cytgord. Rwyf wrth fy modd â’r awyr agored, cerdded a chwaraeon dŵr gan gynnwys nofio dŵr agored. 

Aelodaeth o Sefydliadau: 

  • Aelod o Bwyllgor Cymdeithas y Tirfeddianwyr
  • Aelod RYA 

 

Miss Phillipa Cherryson 

Mae Phillipa yn awdur, yn gerddwr mynydd brwd ac yn farchog. Yn gyn-ohebydd i bapurau newydd a theledu Cymru, mae hi bellach yn olygydd cylchgrawn digidol. Mae hi’n Hyrwyddwr yr Arolwg Ordnans, yn drefnydd De Cymru ar gyfer yr Adventure Queens (cymuned sy’n annog mwy o fenywod i gymryd rhan mewn gweithgareddau awyr agored) ac yn arweinydd mynydd dan hyfforddiant. 

Mae hi wedi byw yn y parc ers dros 25 mlynedd ac yn deall pryderon tirfeddianwyr a thrigolion. Mae hi wedi gweithio’n agos gyda thimau achub mynydd yr ardal ac wedi bod ar bwyllgor Clwb Marchogaeth Dyffryn Wysg yn y Fenni am fwy na 10 mlynedd. Ei diddordebau allweddol yw cerdded, diogelwch mynydd, cadwraeth a marchogaeth. 

Aelodaeth o Sefydliadau: 

  • Arolwg Ordnans
  • BMC
  • Adventure Queens
  • Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gwent
  • Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol
  • Cymdeithas Hyfforddiant Mynydd

 

Mr Robert Dangerfield 

Diddordebau: 

  • Gwella mynediad i gefn gwlad yn barhaus ar gyfer pobl leol ac ymwelwyr o bob gallu
  • Addysgu pobl am fanteision a heriau cefn gwlad
  • Gwarchod a gwella cynefinoedd a thirwedd, gan fabwysiadu egwyddorion Hawliau Natur
  • Mynediad diogel a theg i ddŵr mewndirol
  • Parch at hawliau perchnogol
  • Datblygu’r economi leol ymhellach gyda PCBB, yn arbennig amaethyddiaeth, diwydiant gwledig a thwristiaeth. 

Aelodaeth o Sefydliadau: 

  • Clwb Hwylio Llangors 

Mr Gareth Davies 

Rwyf wedi treulio llawer o flynyddoedd yn byw acyn mwynhau ein Bannau Brycheiniog, lle arbennig i mi a’m teulu. Mae gennyf ddiddordeb arbennig mewn gweithio gyda PCBB i sicrhau bod y parc yn parhau i ddatblygu ei hygyrchedd i drigolion ac ymwelwyr a allai fod ag anabledd nawr neu yn y dyfodol. Fel person sydd wedi’i gofrestru’n ddall, mae gen i brofiad byw helaeth o ymgysylltu â Bannau Brycheiniog mewn sawl ffordd tra’n byw gyda cholled golwg ac rwy’n anelu at ddod â’r profiad hwn i’r Fforwm Mynediad Lleol. Rwy’n rhedwr brwd ac i mi mae mynd allan ar y llwybrau ac i’r mynyddoedd gyda ffrindiau yn un o fy hoff ffyrdd o dreulio fy amser sbâr. 

 

Ms Karen Harris 

Mae gen i BSc mewn Gwyddor yr Amgylchedd a Daearyddiaeth ac MSc mewn Rheoli Llygredd Amgylcheddol ac rwy’n mwynhau archwilio’r awyr agored. Mae bod ag anabledd gan gynnwys problemau symudedd wedi cyfyngu’n ddifrifol ar fy mynediad i gefn gwlad ac felly fy ngallu i ddilyn fy niddordebau a hobïau ac wedi cael effaith negyddol ar fy iechyd meddwl. Mae wedi dod i’m sylw bod hyn yn berthnasol i lawer o rai eraill ag anableddau. Mae gen i diddordeb arbennig mewn gwella mynediad i’n cefn gwlad gan gynnwys Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Fel gwyddonydd amgylcheddol rwyf wedi ymrwymo i gyflawni hyn tra’n gwarchod a gwella ein hamgylchedd naturiol. 

Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, rwyf wedi ymgyrchu a chynorthwyo sefydliadau; PCBB, Cerddwyr Cymru gyda phrosiectau i wella mynediad i rai ag anableddau. Mae hyn wedi cynnwys profi offer ac arolygu safleoedd, datblygu llwybrau hygyrch o lwybrau troed presennol, awgrymu gwelliannau sydd eu hangen ac adrodd ar broblemau a chyfleoedd yn ymwneud â mynediad i ymwelwyr. Rwyf ar hyn o bryd yn gweithio i Wasanaeth Amgueddfeydd Cyngor Sir Caerfyrddin ar archwiliadau Mynediad ar gyfer eu hamrywiol safleoedd. Mae fy hobïau a diddordebau eraill yn cynnwys: ffotograffiaeth, crefftau tecstilau, garddio, ysgrifennu barddoniaeth a darllen. 

 Aelodaeth o Sefydliadau: 

  • Rwy’n aelod o Sefydliad y Merched Ystradgynlais
  • Grŵp Cwiltio Ystradgynlais
  • Clwb Llyfrau Brynaman
  • Panel Cyfranwyr BBC Cymru
  • Ysgrifennu Creadigol Llyfrgell Ystradgynlais

 

Dr Ian Jenkins 

Mae Ian yn ddaearyddwr twristiaeth sydd wedi arbenigo mewn meysydd cynaliadwyedd ac antur. Maes nodedig o’i waith fu twristiaeth antur a mynediad i barciau cenedlaethol. Mae Ian wedi rheoli nifer o gyrsiau twristiaeth antur yng Nghymru, a oedd yn cynnwys cyswllt agos â chwmnïau antur a materion mynediad i dirweddau amgylcheddol sensitif, gan gynnwys Parciau Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a Sir Benfro. Mae wedi gweithio yng Ngwlad yr Iâ a’r Swistir ar bynciau’n ymwneud â thwristiaeth gynaliadwy mewn parciau cenedlaethol, yn enwedig twristiaeth antur. Mae ei gyhoeddiadau yn cwmpasu nifer o lyfrau, penodau llyfrau ac erthyglau twristiaeth gynaliadwy, newid hinsawdd, twristiaeth antur a rheolaeth iechyd a diogelwch. 

Aelodaeth o Sefydliadau: 

  • Athro Cyswllt Gwadd Prifysgol Gwlad yr Iâ 

Yn flaenorol: 

  • Athro Cyswllt Prifysgol Gwlad yr Iâ
  • Cymrawd Ymchwil Prifysgol Nicosia
  • Cyfarwyddwr Ymchwil LRG/Glion IHE, y Swistir
  • Cyfarwyddwr Celt@s and Sail UWTSD, Abertawe 

 

Mr Steve Jones 

Rwy’n credu’n gryf bod gan bawb hawl i fwynhau cefn gwlad a gwerth treulio amser yn yr awyr agored ar gyfer iechyd corfforol a meddyliol. Cefais fy magu ar fferm laeth yng Ngorllewin Cymru a threuliais nifer o flynyddoedd yn byw mewn dinasoedd cyn ymsefydlu yn Ystradgynlais. Rwy’n treulio fy amser rhydd yn archwilio llwybrau yn y parc cenedlaethol, ar deithiau cerdded hir, neu deithiau cerdded teuluol gyda fy mhartner, sbaniel egnïol a’n bachgen bach. 

Rwyf wedi bod yn gweithio i CPRE Yr Elusen Cefn Gwlad ers nifer o flynyddoedd. Trwy fy amser guyda’r elusen, rwyf wedi datblygu arbenigedd ar ystod eang o faterion cefn gwlad. Popeth o bolisi cynllunio, plannu gwrychoedd, awyr dywyll, trafnidiaeth wledig, diogelwch bwyd a ffermio. Rwyf hefyd wedi gweithio i’r elusen datblygu ieuenctid, Cymdeithas Archwilio Prydain, a gwirfoddolodd fel arweinydd gydag Outward Bound Oman. Trwy’r rolau hyn datblygais arbenigedd ac angerdd am weithio gyda phobl ifanc, pobl o gefndiroedd ethnig a galluoedd corfforol gwahanol. 

Rwy’n Llysgennad Aur Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ac mae gennyf sylfaen wybodaeth gref ar yr amrywiol agweddau ar y parc, o’r bobl, treftadaeth, bioamrywiaeth a’r tirweddau sy’n gwneud Bannau Brycheiniog mor arbennig. Rwyf hefyd yn wirfoddolwr gyda Cerddwyr Cymru, yn gweithio ar brosiectau i wella mynediad ac amodau llwybrau yn y parc cenedlaethol. Mae’r gwaith yn ymwneud â chydweithio rhwng y gwahanol randdeiliaid yng nghefn gwlad a dod o hyd i gydbwysedd rhwng ffermwyr sydd eisiau gwarchod eu da byw ac agor/adfer llwybrau i fwy o bobl eu mwynhau. 

Mae gennyf ddiddordeb arbennig mewn trafodaethau yn ymwneud â hawliau tramwy, boed hynny am gynnal a chadw, gwelliannau, ehangu mynediad a’r ffordd orau i wneud y cyhoedd yn ymwybodol o’r hyn sydd ar gael a sut i gael mynediad priodol iddo. 

Aelodaeth o Sefydliadau: 

  • Llysgennad Aur Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog
  • Gwirfoddoli gyda Cerddwyr Cymru
  • Aelod o staff CPRE Yr Elusen Cefn Gwlad
  • Rheolwr prosiect cymwys gyda’r Gymdeithas Rheoli Prosiectau 

 

Mr Nicholas Lancaster 

Mae nam ar fy ngolwg a dymunaf hyrwyddo’r defnydd o’r Parc Cenedlaethol ar gyfer pobl rhannol ddall a dall, ynghyd â phawb sy’n byw ag anableddau ac yn dymuno mwynhau’r cyfan sydd gan y Bannau i’w gynnig. Rwyf hefyd yn ymwneud â’r Sgowtiaid, sefydliad sy’n gwneud defnydd da o gyfleusterau’r Parc Cenedlaethol, o blith grwpiau lleol a’r rhai sy’n teithio i’r ardal ac yn gwerthfawrogi bod y Bannau yn cynnig cyfleoedd ar gyfer gweithgareddau nad ydynt ar gael i bobl ifanc yn unman arall. 

Aelodaeth o Sefydliadau: 

  • Aelod o Grŵp Mynediad Brycheiniog
  • Cadeirydd Nam ar y Golwg Sir Frycheiniog
  • Ymddiriedolwr Cyngor Sgowtiaid Ardal Brycheiniog 

 

Dr Simone Lowthe-Thomas 

Cyfarwyddwr Adfer Natur a Newid Hinsawdd ym Mannau Brycheiniog (Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog) – yn byw yn Y Bannau ac yn frwdfrydig am weithio mewn partneriaeth i ddylunio a darparu atebion sy’n ailgysylltu pobl a natur fel y gall pawb ffynnu nawr ac ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. 

 

Mr Ian Mabberley – Cadeirydd y Fforwm Mynediad Lleol 

Fel defnyddiwr rheolaidd rhwydwaith hawliau tramwy PCBB a thyddynnwr yn un o’r cymoedd prysuraf yn y Parc Cenedlaethol, gallaf werthfawrogi’r pwysau ar y rhwydwaith ac ar y trigolion a’r tirfeddianwyr. Mae gennyf ddiddordeb arbennig mewn gwneud mynediad ar draws y parc yn weithgaredd pleserus a diogel i ddefnyddwyr cyfreithlon. Rwy’n gweithio’n agos yn fy ardal gyda’r Heddlu a Chyfoeth Naturiol Cymru i gyfyngu ar weithgareddau anghyfreithlon ar y rhwydwaith hawliau tramwy a thir mynediad. 

Rwyf hefyd yn awyddus i weld bod gweithgareddau grŵpiau mawr yn cael eu rheoli’n dda a’u bod o fudd lle bo modd i’r Cymunedau Lleol y maent yn effeithio arnynt. Yn fwyaf diweddar rwyf wedi bod yn arwain ar brosiect cymunedol i ddod â chyn ffermdy yn ôl i ddefnydd fel canolfan awyr agored ar gyfer ysgolion lleol, Sgowtiaid ac ati. Credaf mai cael pobl ifanc allan i gefn gwlad sydd bwysicaf yn eu datblygiad. 

Ar hyn o bryd rwy’n Gadeirydd cyfarfod Cadeirydd Fforwm Mynediad Lleol Cymru Gyfan ac yn Gynrychiolydd Cenedlaethol Fforymau Mynediad Lleol yng Nghymru. 

Aelodaeth o Sefydliadau: 

  • Cyfarwyddwr, Cwmni Buddiannau Cymunedol Grwyne Fawr (CIC) 

 

Yr Athro Denis Murphy 

Rwy’n byw ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, yn naturiaethwr ac yn frwd dros fywyd gwyllt, ac yn berson awyr agored brwd. Rwyf hefyd yn gyn-redwr mynydd cystadleuol, yn feiciwr hamdden, ac yn dal i fod yn gerddwr brwd gyda gwybodaeth ymarferol fanwl am lawer o faterion ymarferol yn ymwneud â mynediad a hawliau tramwy. Rwyn breswylydd sy’n byw mewn ardal o’r Parc Cenedlaethol sy’n cael ei defnyddio’n helaeth iawn lle mae’n bosibl bod gan fy nghymdogion bryderon dilys iawn am rai agweddau ar ddefnydd gan rai adrannau o’r cyhoedd. Yn benodol, mae pryderon am sbwriel o ddigwyddiadau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol achlysurol. 

Gall fy ngwybodaeth fiolegol fod yn ddefnyddiol hefyd, er enghraifft mewn trafodaethau am rywogaethau prin neu mewn perygl neu effaith rhywogaethau ymledol. Rwyf hefyd yn gweithio ar addasu i newid yn yr hinsawdd ac wedi bod yn rhan o drafodaethau am gadwraeth mawndiroedd yn y DU a thramor. Fel Athro Bioleg a darlithydd ar bynciau megis bioamrywiaeth, bioddaearyddiaeth, cadwraeth amgylcheddol, a rhywogaethau ymledol, mae gennyf ddiddordeb proffesiynol yn agweddau naturiol ein hamgylchedd lleol. 

Fy niddordeb mawr fyddai sicrhau bod y Parc Cenedlaethol yn hygyrch i’r ystod ehangaf bosibl o ddefnyddwyr. Fodd bynnag, mae gennyf ddiddordeb hefyd mewn sicrhau bod mynediad o’r fath yn cael ei reoli er mwyn gwneud y mwyaf o gynaliadwyedd hirdymor pob math o ddefnydd a lleihau eu hôl troed amgylcheddol er mwyn sicrhau bod Parc heb ei ddifetha ar gael ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. 

Fel preswylydd a phennaeth cwmni masnachol sydd wedi’i leoli yn y Parc, a defnyddiwr cyson o’i atyniadau a chyfleusterau awyr agored niferus, mae gennyf ddiddordeb personol mewn sicrhau ei fod yn cael ei gynnal yn y ffordd orau bosibl. Teimlaf hefyd y gallaf wneud cyfraniad i ddyfodol y Parc er lles y gymuned ehangach, yn drigolion ac yn ymwelwyr. 

Aelodaeth broffesiynol ffurfiol 

  • Cymrawd y Gymdeithas Frenhinol Bioleg (FRSB) 

Mae gennyf hefyd amrywiaeth eang o aelodaeth a chysylltiadau eraill. Mae hyn yn cynnwys: 

  • Clybiau awyr agored lleol (e.e. rhedeg, cerdded)
  • Fy mhrifysgol fy hun (De Cymru) a phrifysgolion Cymreig eraill yr wyf wedi gweithio gyda nhw
  • Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, lle mae gennyf nifer o brosiectau cydweithredol ar agweddau ar fflora Cymru
  • Yr Amgueddfeydd Cenedlaethol yng Nghaerdydd a Sain Ffagan y bûm yn gweithio gyda nhw ar amrywiol brosiectau byd natur.
  • Gŵyl Lenyddol y Gelli, lle rwy’n siaradwr cyson ar bynciau amgylcheddol

 

Ms Katherine Shaw 

Diddordebau: 

Ffermio, Cerdded Bryniau, Rhedeg Llwybrau, Padlfyrddio Sefyll, Caiacio 

Aelodaeth o Sefydliadau: 

Undeb Amaethwyr Cymru Cymdeithas Bythynnod Mynydd Canw Cymru/Canoe Wales 

 

Mrs Kathryn Whitrow 

  • Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr (NFU) – Aelod Sirol a Chadeirydd Bwrdd yr ALFf
  • Porwr y Fforest Fawr
  • Ffermwr Cig Eidion a Defaid
  • Perchennog tir ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog 

Aelodaeth o Sefydliadau: 

  • NFU Cymru 

 

Mr Colin Woodley 

Rwy’n ffermwr ym Mannau Brycheiniog, yn ysgrifennydd y gymdeithas cominwyr lleol ac yn aelod o Undeb Amaethwyr Cymru. Aelod o Gyngor Cymuned Hirwaun a Phenderyn ac o Gyngor Cymuned Ystradfellte. 

Mae fy niddordebau yn cynnwys archwilio ogofâu a pheirianneg.