Cefndir
Sefydlwyd Fforymau Mynediad Lleol gan Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog fel cyrff cynghori statudol, a chawsant eu sefydlu o ganlyniad i Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy (CRoW) 2000.
Mae’r Ddeddf yn dweud mai diben y Fforymau yw:
- Cynghori Awdurdod y Parc Cenedlaethol ar wella mynediad cyhoeddus at dir yn y Parc Cenedlaethol at ddiben gweithgareddau hamdden awyr agored a mwynhad yn yr ardal.
Wrth gyflawni eu swyddogaeth, bydd y Fforymau yn ystyried anghenion rheoli tir a chadwraeth harddwch naturiol yr ardal.
Roedd gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog dri Fforwm Mynediad Lleol yn wreiddiol, un ar gyfer ardal ddwyreiniol, un ar gyfer ardal orllewinol ac un ar gyfer ardal ganolog y Parc Cenedlaethol. Fodd bynnag, ar 10 Ebrill 2008, sefydlwyd un Fforwm Mynediad Lleol i ymdrin ag ardal gyfan y Parc Cenedlaethol.
Beth mae Fforwm Mynediad Lleol yn gwneud?
Mae’r Fforwm yn ystyried pob math o fynediad, gan gynnwys marchogaeth, beicio a gyrru oddi ar y ffordd, ac nid mynediad ar droed yn unig. Y Fforwm ei hun sy’n penderfynu ar union natur y gwaith hwn, mewn cytundeb ag Awdurdod y Parc Cenedlaethol.
Mae’n rhaid ymgynghori â’r Fforwm, yn ôl statud, ynglŷn â rhai materion. Mae’r rhain yn cynnwys:
-
- penodi wardeniaid ar gyfer tir mynediad.
- llunio isddeddfau sy’n ymwneud â thir mynediad.
- paratoi neu adolygu Cynllun Gwella Hawliau Tramwy.
- ceisiadau ar gyfer eithriadau tymor hir neu gyfyngiadau ar fynediad i dir mynediad.
Pa mor aml y mae’r Fforwm Mynediad Lleol yn cyfarfod?
Mae rheoliadau’n gofyn bod y Fforwm yn cyfarfod o leiaf dwywaith y flwyddyn. Fodd bynnag, mae Fforwm Mynediad Lleol Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn cyfarfod tua phedair gwaith y flwyddyn. Hefyd, gall aelodau fynychu cyfarfodydd neu gynadleddau is-grwpiau trwy gydol y flwyddyn.
A yw aelodau’r Fforwm Mynediad Lleol yn cael eu talu?
Na. Mae aelodau yn rhoi o’u hamser yn wirfoddol, er y gallant hawlio unrhyw dreuliau.
Pwy sy’n penodi aelodau’r Fforwm Mynediad Lleol?
Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog sy’n penodi aelodau’r Fforwm. Fodd bynnag, mae Deddf CRoW yn gofyn yn benodol bod unrhyw un a benodir yn gorfod cynrychioli: –
-
- defnyddwyr hawliau tramwy cyhoeddus neu dir mynediad.
- perchenogion/deiliaid tir mynediad neu dir lle mae hawliau tramwy lleol yn bodoli.
- unrhyw ddiddordebau eraill sy’n arbennig o berthnasol i’r ardal.
Mae’n rhaid bod cydbwysedd rhesymol hefyd rhwng diddordebau defnyddwyr a pherchenogion/deiliaid tir mynediad.
Alla i fynychu cyfarfod y Fforwm Mynediad Lleol?
Gallwch. Mae croeso i aelodau o’r cyhoedd ym mhob cyfarfod y Fforwm a gellid eu gwahodd i siarad yn ôl disgresiwn y Cadeirydd. Dangosir dyddiadau’r cyfarfodydd ar y wefan hon.
Beth mae sefydlu Fforwm Mynediad Lleol yn ei olygu i mi?
Mae’r Fforwm yn awyddus i wasanaethu pobl leol ac ymwelwyr. Os oes gennych syniadau am sut y gellir gwella neu reoli mynediad yn y Parc Cenedlaethol, cysylltwch ag unrhyw un o aelodau’r Fforwm trwy’r Ysgrifennydd, Richard Ball ar 01874 620464 neu anfonwch neges e-bost ato. Oherwydd bod gan y Fforwm aelodaeth gytbwys, gallwch fod yn siwr y bydd eich syniadau neu awgrymiadau’n cael eu hystyried gan y Fforwm perthnasol.
Alla i gysylltu ag aelodau’r Fforwm Mynediad Lleol?
Os dymunwch gysylltu ag aelod, gwnewch hyn trwy’r Ysgrifennydd, Richard Ball ar 01874 620464 neu anfonwch neges e-bost ato.