Gweler y ddolen isod i’r Cynllun Datblygu Lleol a fabwysiadwyd gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog:
DS: Gallwch brynu copïau caled o’r Cynllun Datblygu Lleol gan yr Awdurdod am £90 yr un a chostau pacio a phostio. Anfonwch e-bost at strategy@beacons-npa.gov.uk am ragor o wybodaeth.
Mapiau (dwyieithog)
Nodwch fod y Ffiniau Ardal Gadwraeth ar gyfer Talgarth ac Aberhonddu wedi cael eu diweddaru ers cyhoeddi’r CDLl. Mae hyn yn golygu bod yr ardaloedd cadwraeth a ddangosir ar y Mapiau Manwl isod yn awr yn anghywir. Cyfeiriwch at y diweddariadau hyn ar gyfer Talgarth ac Aberhonddu am wybodaeth ffin gywir.
Mapiau Manwl Crucywel / Pontsenni / Defynnog
Mapiau Manwl Libanws a Llanbedr
Map Manwl Llanfihangel Crucornau
Map Manwl Hen Ysbyty Canolbarth Cymru
Mabwysiadwyd y Cynllun Datblygu Lleol gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol ar 17 Rhagfyr 2013 ac ar y dyddiad hwnnw daeth yn ddogfen bolisi cynllunio ar gyfer Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
Mae’n nodi’r polisïau allweddol a’r dyraniadau defnydd tir a fydd yn siapio dyfodol ardal y Parc Cenedlaethol ac yn arwain datblygiadau hyd at 2022.
Mae’r Cynllun Datblygu Lleol yn disodli Cynllun Datblygu Unedol Cymeradwy Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog (2007) a Chynllun Lleol Mabwysiedig Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog (1999). O’r herwydd, bydd pob cais cynllunio nawr yn cael eu pwyso a’u mesur yn erbyn y Cynllun Datblygu Lleol.
Gellir gweld copïau o’r Cynllun Datblygu Lleol Mabwysiedig, yr Adroddiad Gwerthuso Cynaliadwyedd (sy’n ymgorffori’r adroddiad amgylcheddol),Adroddiad yr Arolygydd, Y Datganiad Mabwysiadu a’r Hysbysiad Mabwysiadu (cyhoeddwyd yn y wasg leol a chenedlaethol ar 26 Rhagfyr 2013) yn ystod oriau agor swyddfa arferol ym Mhencadlys Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, ym mhob llyfrgell gyhoeddus yn ardal y Parc Cenedlaethol ac ym mhob canolfan yr Awdurdod.