Y Dyfrgi

I gael rhagor o wybodaeth am bresenoldeb dyfrgwn ar safleoedd datblygu, ewch i’r tudalennau cynllunio.

Mae dyfrgwn yn anifeiliaid tiriogaethol ac ar y cyfan, byddant i’w gweld drwy gydol y flwyddyn ar hyd rhan o afon neu nant rhyw 5-20km o hyd. Mae dyfrgwn yn byw ac yn bridio mewn tyllau glan afon o’r enw gwalau, y gofod gwag ymhlith gwreiddiau coed glan afon gan amlaf, ond byddant yn fodlon defnyddio safleoedd gwneud neu strwythurau eraill sy’n cynnig unigrwydd a dihangfa sydyn i’r afon.

Caiff dyfrgwn a’u gwalau fel ei gilydd eu gwarchod o dan gyfraith y DU ac Ewrop.

Gallwch weld rhagor o wybodaeth am Dyfrgwn ar wefan Cynllun Gweithredu’r DU ar Fioamrywiaeth.

 

Mae Prosiect Dyfrgwn Prifysgol Caerdydd yn dibynnu ar y cyhoedd, a sefydliadau megis Asiantaeth yr Amgylchedd, Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyllt y DU, yr heddlu ac awdurdodau lleol yn rhoi gwybod am weld celanedd.

Os byddwch yn dod o hyd i ddyfrgi marw, ffoniwch 0800 807060 (Asiantaeth yr Amgylchedd) neu 0845 1306229 (Cyngor Cefn Gwlad Cymru) gyda manylion am y lleoliad.

 
Defnyddiwch y bar gwe-lywio ar y chwith i archwilio mwy o rywogaethau yn y Parc Cenedlaethol neu ewch yn ôl i Bioamrywiaeth yn y Parc Cenedlaethol