Llygoden y dŵr

Mae llygod dŵr tua’r un faint â llygod mawr ac o’u gweld, cânt eu camgymryd am lygod mawr yn aml. Fodd bynnag, mae gan lygod dŵr drwyn di-fin, ffwr brown castan, clustiau crwn byr a chynffon blew byr. O ran llygod mawr, mae’r clustiau mwy a’r cynffonnau di-flew’n amlwg. Mae llygod dŵr i’w cael ger dŵr agored yn aml gan eu bod yn gallu plymio a nofio’n rhwydd (er nid am hir iawn), sy’n dechneg sy’n eu helpu i osgoi ysglyfaethwyr. Maent i’w gweld yn bennaf ar hyd glannau â llystyfiant lle mae afonydd sy’n llifo’n araf, ffosydd, morgloddiau a llynnoedd ac maent yn bwyta glaswelltiroedd a llystyfiant glan afon. Maent yn byw mewn tyllau sydd wedi’u torri i lannau’r dyfrffyrdd. Mae llygod dŵr yn tueddu i fod yn fwy gweithgar yn ystod y dydd na chyda’r nos.

Mae llygod dŵr fel arfer yn esgor ar dri neu bedwar torllwyth y flwyddyn, yn dibynnu ar y tywydd. Os bydd y gwanwyn yn fwyn, gall y cyntaf o’r rhain gael ei eni ym mis Mawrth neu Ebrill, er y gall tywydd oer beri oedi i fridio tan fis Mai neu hyd yn oed fis Mehefin. Mae tua phum llygoden ddŵr ifanc mewn torllwyth fel arfer sy’n cael eu geni o dan y ddaear mewn nyth wedi’i gwneud o lystyfiant addas, o laswelltiroedd a brwyn gan amlaf. Er eu bod yn ddall ac yn ddi-liw ar adeg eu geni, mae llygod dŵr ifanc yn tyfu’n gyflym, a chânt eu diddyfnu ar ôl 14 diwrnod. Ar gyfartaledd, mae llygod dŵr yn byw am tua phum mis yn y gwyllt. Eu hysglyfaethwyr pennaf yw minc a charlymod, er bod crehyrod, tylluanod gwynion, llygod mawr brown a phenhwyaid hefyd yn dueddol o’u hela.

Defnyddiwch y bar gwe-lywio ar y chwith i archwilio mwy o rywogaethau yn y Parc Cenedlaethol neu ewch yn ôl i Bioamrywiaeth yn y Parc Cenedlaethol.