Erydu Llwybrau’r Ucheldir

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog wedi cwblhau nifer o brosiectau atgyweirio llwybrau’r ucheldir dros y 10 mlynedd diwethaf sydd wedi’u llunio i leihau erydiad llwybrau’r ucheldir.

Yn 2006, cynhaliodd Awdurdod y Parc Cenedlaethol arolwg o 155 cilomedr o lwybrau mynydd drwy’r Parc Cenedlaethol. Nod yr arolwg oedd casglu gwybodaeth ddiduedd am gyflwr y llwybr a seilio Strategaeth Erydu’r Ucheldir ar hynny. Mae’r Strategaeth hon wedi’i llunio i gyfrannu at waith y Parc Cenedlaethol a sefydliadau partner ynghylch rheoli erydu’r ucheldir.

Gellir lawrlwytho copïau o ddrafft Strategaeth Erydu’r Ucheldir fel ffeil .pdf. Mae’r ddogfen gyfan, yn cynnwys mapiau, yn ddogfen fawr iawn (28.7MB) ac efallai na fydd yn addas i rai pobl ei llwytho i lawr. Rydym felly wedi rhannu’r ddogfen yn nifer o ffeiliau llai, dim ond y testun sydd yn y ffeil gyntaf (2.7MB) a chopïau .pdf ar wahân o bob map unigol a gaiff ei gynnwys yn y ddogfen yw’r gweddill.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau yngylch erydu llwybrau’r ucheldir neu am y Strategaeth ddraft hon, cysylltwch â’r Swyddog Mynediad, Richard Ball.

Drafft o Strategaeth Erydu’r Ucheldir (dogfen gyfan) 28.7MB

Drafft o Strategaeth Erydu’r Ucheldir (heb fapiau – 2.74MB)