Safleoedd gwarchodedig

Beth yw safleoedd gwarchodedig?

Y rhain yw’r safleoedd sydd wedi’u gwarchod gan gyfraith y Deyrnas Unedig. Mae Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn un o’r safleoedd hyn ond mae modd i ardaloedd llai yn y Parc Cenedlaethol gael un neu fwy o ddynodiadau pellach, wedi’u dylunio i amddiffyn daeareg neu fywyd gwyllt arbennig. Mae mwy o wybodaeth ynghylch tirweddau arbennig Cymru ar gael gan Cyfoeth Naturiol Cymru.

Mae safleoedd gwarchodedig (neu ddynodedig) yn cynnwys:

Mae yna hefyd restr o gynefinoedd sydd wedi’u nodi fel eu bod o bwysigrwydd pennaf ar gyfer cadwraeth bioamrywiaeth yng Nghymru – sy’n cael ei adnabod fel Rhestr Adran 42.

Lle maen nhw?

Gallwch chwilio am wybodaeth ar safleoedd dynodedig yma a gweld map rhyngweithiol o safleoedd gwarchodedig ar hen wefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru.

Sylwch nad yw’r map hwn yn ddigon eglur ar gyfer cais cynllunio manwl a bydd angen gwirio lleoliad yr union ffiniau â’ch swyddfa Cyfoeth Naturiol Cymru leol.