Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA)

Ynghyd ag Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig (AGA – Ardaloedd o bwysigrwydd penodol i adar – er nad oes yr un AGA yn y Parc Cenedlaethol), mae Ardaloedd Cadwraeth Arbennig yn rhan o rwydwaith o safleoedd gwarchodedig ar draws Ewrop o’r enw safleoedd Natura 2000.

Mae dynodiad ACA yn cynnig lefel ychwanegol o warchodaeth i safleoedd sydd hefyd yn SoDdGA. Llywodraeth Cynulliad Cymru, drwy Gyngor Cefn Gwlad Cymru, sy’n atebol i’r Undeb Ewropeaidd am sicrhau bod pob ACA yn parhau mewn cyflwr sy’n ffafriol i’r cynefinoedd a’r rhywogaethau pwysig y dynodwyd yr ardaloedd hyn ar eu cyfer.

Cewch weld mwy o wybodaeth am rôl a rheolaeth safleoedd Natura 2000 ar wefan Europa.