Pryd bydd rhaid cynnal arolwg bioamrywiaeth

Ceir rhagor o wybodaeth am gynnal arolygon ecolegol yng Canllaw Cynlluio Atodol Bioamrywiaeth a Datblygiad

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi llunio canllawiau ar gomisiynu arolwg ecolegol. Gallwch weld rhestr o arolygwyr ecolegol yng Nghyfeiriadur Aelodau y Sefydliad Siartredig Ecoleg a Rheolaeth Amgylcheddol (CIEEM).

Mae’r rhestr wirio ganlynol sy’n rhan o ganllawiau’r Awdurdod yn cynnig arweiniad o ran pryd bydd rhaid cynnal arolwg bioamrywiaeth. Dylid cynnal arolwg os yw datblygiad arfaethedig:-

Yn effeithio ar: Bosib y bydd rhaid cael arolygon rhywogaethau ar gyfer:
  • Tir glas
Presenoldeb unrhyw rywogaeth a warchodir
  • Rhandiroedd
Presenoldeb unrhyw rywogaeth a warchodir
  • Meysydd glas agored
Presenoldeb unrhyw rywogaeth a warchodir
  • Llwybrau dŵr
Llygod y dŵr, dyfrgwn, pysgod, adar
  • Llwybrau dŵr gydag is-haen garegog
Cimychiaid crafanc wen
  • Safle, adeilad neu dir a ddatblygwyd o’r blaen, yn enwedig os oes cofnod o rywogaethau a warchodir eisoes yn bodoli
Presenoldeb unrhyw rywogaeth a warchodir

 

Ar neu’n agos at: Bosib y bydd rhaid cael arolygon rhywogaethau ar gyfer:
  • Llwybrau dŵr
Llygod y dŵr, dyfrgwn, pysgod, adar
  • Pyllau dŵr/tir gwlyb
Llygod y dŵr, madfallod cribog
  • Argloddiau rheilffyrdd
Ymlusgiaid, moch daear
  • Coetiroedd
Ystlumod, moch daear, adar, pathewod
  • Gwarchodfeydd natur
Presenoldeb unrhyw rywogaeth a warchodir
  • Tir agored
Presenoldeb unrhyw rywogaeth a warchodir
  • Mwynfeydd, ogofâu, seleri
Ystlumod
  • Chwareli
Ystlumod, moch daear
  • Safle neu adeilad gyda chofnod o rywogaeth a warchodir
Presenoldeb unrhyw rywogaeth a warchodir

 

Yn cynnwys: Bosib y bydd rhaid cael arolygon rhywogaethau ar gyfer:
  • Addasu ysgubor/adeilad
Ystlumod, tylluanod gwyn
  • Addasu llofft yn y to/ail-doi
Ystlumod
  • Dymchwel adeilad
Ystlumod, tylluanod gwyn
  • Clirio prysgoed/coetir/cloddiau
Adar, moch daear, pathewod
  • Torri coed, yn cynnwys hen goed
Ystlumod, adar, pryfed saprocsylig
  • Adeiladu ffordd
Presenoldeb unrhyw rywogaeth a warchodir
  • Gwaith adfer e.e. camlas
Presenoldeb unrhyw rywogaeth a warchodir
  • Creu/gwella cynefin
Presenoldeb unrhyw rywogaeth a warchodir
  • Cynnal a chadw pont
Ystlumod
  • Tynnu llinellau coed
Ystlumod, pathewod
  • Addasu/llenwi pyllau dŵr
Madfallod cribog