Coed a Gwrychoedd

Mewn gwirionedd, gall pob coeden a gwrych yn y Parc Cenedlaethol fod yn bwysig naill ai i fywyd gwyllt neu i dirwedd y Parc Cenedlaethol. Efallai bydd angen i’r sawl sy’n gwneud y cais cynllunio gomisiynu arolwg ecolegol gan ecolegydd cymwys a thrwyddedig er mwyn rhoi sylw i ystlumod, pathewod neu rhyw rywogaeth warchodedig arall. Os bydd rhaid tynnu coed neu wrychoedd, mae’n bosib y bydd rhaid cael trwydded briodol gyda gofyniad i ailblannu neu adfer y cynefin a gollwyd.

Nid oes angen caniatâd cynllunio arnoch i ddim ond gwneud gwaith ar goed, yn cynnwys torri coed.  Serch hynny, mae coed yn ystyriaeth bwysig yn y broses gynllunio.

Caiff coed eu gwarchod mewn sawl ffordd. Os oes bwriad gwneud gwaith a allai effeithio arnyn nhw, mae’n bosib y bydd sawl gofyniad arall yn berthnasol, yn cynnwys:

  • Gorchmynion Cadw Coed a Choed mewn Ardaloedd Cadwraeth
  • Trwyddedau Torri Coed
  • Dynodiadau cadwraeth statudol
  • Deddfwriaeth arall
    • Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (fel y’i diwygiwyd) – yn enwedig gwarchod adar sy’n nythu a/neu ystlumod sy’n clwydo.
    • Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy (CRoW)
    • Rheoliadau/Cyfarwyddeb Cynefinoedd – mae cyfraith Ewrop hefyd yn gwarchod ystlumod

 

Defnyddiwch y bar llywio ar y chwith i gael rhagor o fanylion am agweddau penodol o warchod coed a gwrychoedd.