Trwyddedau Cwympo Coed

Yng Nghymru, Lloegr a’r Alban, mae’r Comisiwn Coedwigaeth yn gyfrifol am y rheolaeth gyffredinol ar gwympo coed. Mae gofyn cael trwydded cwympo coed ar gyfer cwympo coed sy’n tyfu, heblaw am nifer o eithriadau, gan gynnwys:

  • coed sydd â diamedr llai nag 8cm (10cm ar gyfer teneuo, 15cm ar gyfer prysgoedio)
  • achosion lle bydd cyfanswm y pren sydd wedi cael ei gwympo yn llai na 5 metr ciwbig, nad yw mwy na 2 fetr ciwbig ohono’n cael ei werthu mewn unrhyw chwarter
  • cwympo coed i atal perygl
  • pan fydd cwympo coed yn ofynnol fel rhan o gais cynllunio wedi’i gymeradwyo (gweler Coed a’r Broses Gynllunio)
  • coed ffrwythau neu goed sy’n sefyll mewn perllan, gardd, mynwent neu fan agored cyhoeddus
  • cwympo gan gwmnïau cyfleustodau amrywiol e.e. cwmnïau dŵr a thrydan er mwyn cyflawni eu swyddogaethau
  • coed ym mwrdeistrefi Llundain fewnol
  • coed llwyf y mae clefyd llwyfen yr Iseldiroedd yn effeithio arnynt
  • coed a allai effeithio ar lanio neu ymadawiad neu lywio awyrennau.

Yn ogystal, ni fydd angen trwydded cwympo coed os yw’r safle’n rhan o Gynllun Grant Coetir (WGS) cymeradwy, neu Gynllun Grant Coedwigaeth yr Alban (SFGS), sef cynllun gweithrediadau cytûn sydd wedi’i lunio gan y tirfeddiannwr a’r Comisiwn Coedwigaeth. Fel arfer, bydd coedwigoedd y mae’r Comisiwn ei hun yn eu rheoli yn dod o dan Gynllun Dylunio Coedwig. Mae gan y Comisiwn Coedwigaeth bolisi yn erbyn clirio coetiroedd llydanddail at ddiben defnydd arall ar y tir, ac o blaid diogelu cymeriad coetiroedd rhannol-naturiol, hynafol. Felly, byddai cymeradwyo trwydded cwympo coed a allai arwain at golli coetir hynafol yn groes i bolisi’r Comisiwn Coedwigaeth.

Y ddirwy ar gyfer cwympo coed yn anghyfreithlon yw hyd at £2,500 y drosedd (a allai olygu £2,500 y goeden). Fodd bynnag, nid oes angen trwyddedau cwympo coed ar gyfer tocio a thopio neu ddinistrio isdyfiant.